Eudaf Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: en:Eudaf Hen
newidiadau man using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd cynnar y [[Brythoniaid]] yng [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]] oedd '''Eudaf''' neu '''Eudaf Hen'''. Ceir gwahanol draddodiadau amdano sy'n anodd cysoni â'i gilydd. Does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu'r traddodiadau hynny.

Yn y fersiynau [[Cymraeg Canol]] o'r ffug-hanes enwog ''[[Historia Regum Britanniae]]'' gan [[Sieffre o Fynwy]] ceir chwedl "Eudaf, Iarll [[Ewias]] ac [[Ergyng]]" yn ne-ddwyrain [[Cymru]]. "''Octavius'' Dug [[Wessex]]" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel ''[[Brut Dingestow]]''. Mae'r ''brut'' yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion [[Caradog]], arweinydd y [[Silwriaid]] yn erbyn y [[Rhufeiniaid]]. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad [[Cystennin]] am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin [[Ynys Prydain]]" ar ôl curo Trahaearn, brawd [[Coel Hen]]. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'. <ref>Henry Lewis (gol.). ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942), tud. 228-30.</ref>
Yn y fersiynau [[Cymraeg Canol]] o'r ffug-hanes enwog ''[[Historia Regum Britanniae]]'' gan [[Sieffre o Fynwy]] ceir chwedl "Eudaf, Iarll [[Ewias]] ac [[Ergyng]]" yn ne-ddwyrain [[Cymru]]. "''Octavius'' Dug [[Wessex]]" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel ''[[Brut Dingestow]]''. Mae'r ''brut'' yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion [[Caradog]], arweinydd y [[Silwriaid]] yn erbyn y [[Rhufeiniaid]]. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad [[Cystennin]] am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin [[Ynys Prydain]]" ar ôl curo Trahaearn, brawd [[Coel Hen]]. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'.<ref>Henry Lewis (gol.). ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942), tud. 228-30.</ref>

Cyfeirir at Eudaf yn y chwedl Cymraeg Canol ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]''. Yno mae'n dad i [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] (mae traddodiadau eraill yn gwneud Elen yn ferch i Goel Hen o'r [[Hen Ogledd]]) ac yn byw yn ardal [[Segontiwm]] yn [[Arfon]], [[Gwynedd]]. Yn ôl y ''Breuddwyd'', mae [[Cynan Meiriadog]] yn fab iddo ac felly'n chwaer i Elen.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Breuddwyd Maxen'' (Bangor, 1920), tud. 24.</ref>

Fersiwn yn ôl 16:50, 7 Mawrth 2013

Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd cynnar y Brythoniaid yng nghyfnod y Rhufeiniaid oedd Eudaf neu Eudaf Hen. Ceir gwahanol draddodiadau amdano sy'n anodd cysoni â'i gilydd. Does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu'r traddodiadau hynny.

Yn y fersiynau Cymraeg Canol o'r ffug-hanes enwog Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy ceir chwedl "Eudaf, Iarll Ewias ac Ergyng" yn ne-ddwyrain Cymru. "Octavius Dug Wessex" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel Brut Dingestow. Mae'r brut yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion Caradog, arweinydd y Silwriaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad Cystennin am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin Ynys Prydain" ar ôl curo Trahaearn, brawd Coel Hen. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'.[1]

Cyfeirir at Eudaf yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yno mae'n dad i Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig (mae traddodiadau eraill yn gwneud Elen yn ferch i Goel Hen o'r Hen Ogledd) ac yn byw yn ardal Segontiwm yn Arfon, Gwynedd. Yn ôl y Breuddwyd, mae Cynan Meiriadog yn fab iddo ac felly'n chwaer i Elen.[2]

Cyfeiriadau

  1. Henry Lewis (gol.). Brut Dingestow (Caerdydd, 1942), tud. 228-30.
  2. Ifor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor, 1920), tud. 24.