Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B rhyngwici |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Dindaethwy''' oedd un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn ne-ddwyrain [[Môn]]. |
|||
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym [[Penmon|Mhenmon]], gyferbyn ag [[Ynys Seiriol]]. Ffiniai â chwmwd [[Menai]], ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd [[Twrcelyn]], cantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], i'r gogledd. |

Llinell 34: | Llinell 34: | ||
*A. D. Carr, ''Medieval Anglesey'' (Llangefni, 1982) |
*A. D. Carr, ''Medieval Anglesey'' (Llangefni, 1982) |
||
*Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn ''Atlas Môn'' (Llangefni, 1972) |
*Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn ''Atlas Môn'' (Llangefni, 1972) |
||
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 16:36, 7 Mawrth 2013
Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn.
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12fed ganrif, sef Priordy Penmon.
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.
Yr enw
Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (din 'caer neu amddiffynfa' + Daethwy). Ceir yr amrywiadau Tindaethwy a Tyndaethwy hefyd. Llwyth Celtaidd lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle Porthaethwy yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa Dinas, plwyf Llandysilio, fu canolfan y llwyth.
Ymddengys fod y gair Dindaethwy yn enw Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9fed ganrif, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn.
Plwyfi
Roedd Dindaethwy yn cynnwys y plwyfi eglwysig canlynol:
- Llanbedr Mathafarn Wion
- Llandegfan
- Llandysilio
- Llanddona
- Llanddyfnan
- Llan-faes (creuwyd plwyf Biwmares yn ddiweddarach allan o ran o'r plwyf)
- Llanfair Mathafarn Eithaf
- Llanfair Betws Geraint
- Llanfair Pwllgwyngyll
- Llanfihangel Dinsilwy (aeth yn rhan o blwyf Llaniestyn)
- Llangoed
- Llaniestyn
- Llanredifel
- Llansadwrn
- Penmon
Ffynonellau
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
- Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)