Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau) B WPCleaner v1.14 - Reference with punctuation (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia) |
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
*''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion) |
*''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion) |
||
*R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn ''Astudiaethau ar yr Hengerdd'' (gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43. |
*R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn ''Astudiaethau ar yr Hengerdd'' (gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43. |
||
[[Categori:Marwolaethau 633]] |
[[Categori:Marwolaethau 633]] |
Fersiwn yn ôl 16:13, 7 Mawrth 2013
Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.
Hanes
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwaladr ('Cadwaladr Fendigaid').
Moliant Cadwallon ac Afan Ferddig
Credir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.
Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan,"[2] sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon.
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
- R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43.