Brwydr Mechain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ca:Batalla de Mechain
newidiadau man using AWB
Llinell 4: Llinell 4:

Fe geisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth.

[[Categori:1070]]
[[Categori:1070]]

Fersiwn yn ôl 15:37, 7 Mawrth 2013

Brwydr rhwng Bleddyn ap Cynfyn a dau fab Gruffydd ap Llywelyn oedd Brwydr Mechain a ymladdwyd yn y flwyddyn 1070 yng nghantref Mechain yn nheyrnas Powys.

Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.