Amgueddfa Glofa Cefn Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolenni allanol: categoriau dyfnach |
→Dolenni allanol: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
||
* [http://www.neath-porttalbot.gov.uk/default.aspx?page=4964 Gwefan swyddogol] (Cyngor Castell-nedd Port Talbot) |
* [http://www.neath-porttalbot.gov.uk/default.aspx?page=4964 Gwefan swyddogol] (Cyngor Castell-nedd Port Talbot) |
||
[[Categori:Amgueddfeydd Cymru|Glofa Cefn Coed]] |
[[Categori:Amgueddfeydd Cymru|Glofa Cefn Coed]] |
Fersiwn yn ôl 15:21, 7 Mawrth 2013
Lleolir Amgueddfa Glofa Cefn Coed (Saesneg: Cefn Coed Colliery Museum) yn Y Creunant ger Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot.
Sefydlwyd glofa Cefn Coed yn y 1920au ond mae hanes mwyngloddio am lo yn ardal Cwm Dulais yn dechrau yn y 18fed ganrif pan agorodd Syr Herbert Mackworth lofa Onllwyn. Glofa glo carreg oedd Glofa Cefn Coed, a hynny'n lo carreg o'r ansawdd uchaf. Daeth y glo cyntaf i'r wyneb yn 1930. Erbyn 1945 roedd 908 o ddynion yn gweithio yno. Cafodd ei genedlaetholi a dod yn eiddo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol newydd. Daeth cynhyrchu glo i ben yn 1958.
Heddiw mae'r safle yn amgueddfa boblogaidd. Ni cheir mynediad i'r gweithfeydd dan ddaear am eu bod yn rhy beryglus, ond cedwir y rhan fwyaf o'r hen adeiladau a rhai o'r peiriannau mawr ar y safle. Mae ar agor i'r cyhoedd rhwng Ebrill a Hydref; does dim tal mynediad.
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol (Cyngor Castell-nedd Port Talbot)