Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Dodona |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Dodona Zeus temenos.jpg|250px|bawd| Temenos Zeus yn Dodona]] |
||
[[Image:Plan Dodona sanctuary-en.svg|250px|bawd|Map o'r safle]] |
[[Image:Plan Dodona sanctuary-en.svg|250px|bawd|Map o'r safle]] |
||
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
*Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902) |
*Oskar Seyffert, ''A Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902) |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwlad Groeg]] |
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwlad Groeg]] |
||
[[Categori:Mytholeg Glasurol]] |
[[Categori:Mytholeg Glasurol]] |
||
[[Categori:Groeg yr Henfyd]] |
[[Categori:Groeg yr Henfyd]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[bg:Додона]] |
[[bg:Додона]] |
Fersiwn yn ôl 15:03, 7 Mawrth 2013
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i deml enwog Jupiter Ammon yn yr Aifft (ger tref werddon Siwa heddiw).
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 CC-272 CC), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)