Crug Cae Gwynach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, cat
→‎Dolen allanol: newidiadau man using AWB
Llinell 19: Llinell 19:
==Dolen allanol==
==Dolen allanol==
* [http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/306841/manylion/CASTLE+FARM+MOUND%3BPERLLAN+YR+ARGLWYDD+TUMULUS%2C+CASTLE+FARM%2C+RUTHIN/ Crug Cae Gwynach ar wefan Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)]
* [http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/306841/manylion/CASTLE+FARM+MOUND%3BPERLLAN+YR+ARGLWYDD+TUMULUS%2C+CASTLE+FARM%2C+RUTHIN/ Crug Cae Gwynach ar wefan Coflein (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)]



[[Categori:Crugiau crynion Cymru|Cae Gwynach]]
[[Categori:Crugiau crynion Cymru|Cae Gwynach]]

Fersiwn yn ôl 12:06, 7 Mawrth 2013

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Cae Gwynach, Perllan yr Arglwydd, Rhuthun, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ125580.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE105.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Gellir ei weld o gefn tŷ bwyta "Yr Hen Sinema" yn Stryd y Ffynnon. Mae RCAHMW yn ei gysylltu gyda'r castell gerllaw gan fynnu mai mwnt canoloesol ydyw[2]; saif ym mherllan y castell, ger y pwll pysgod. Mae Cadw ar y llaw arall yn dweud mai crug crwn cynhanesyddol ydyw.[3] Mae'n 20 metr mewn diamedr ac yn 1.2m o uchder.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]

Gweler hefyd

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau

Dolen allanol