Coup d'état Tsile (1973): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: id:Kudeta Chili 1973 |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: vi:Đảo chính năm 1973 tại Chile |
||
Llinell 50: | Llinell 50: | ||
[[sv:Militärkuppen i Chile 1973]] |
[[sv:Militärkuppen i Chile 1973]] |
||
[[tr:1973 Şili Darbesi]] |
[[tr:1973 Şili Darbesi]] |
||
[[vi:Đảo chính năm 1973 tại Chile]] |
|||
[[zh:1973年智利政變]] |
[[zh:1973年智利政變]] |
Fersiwn yn ôl 03:39, 7 Mawrth 2013
Ar 11 Medi 1973 cafodd Salvador Allende, Arlywydd Chile, ei ddymchwel mewn coup d'état a drefnwyd gan luoedd milwrol Chile gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd jwnta filwrol dan y Cadfridog Augusto Pinochet gan ddod â llywodraeth yr Unidad Popular, a etholwyd yn ddemocrataidd, i ben.
Ymyrraeth yr Unol Daleithiau
Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystyried y posiblrwydd y byddai Allende yn ennill etholiad 1970 yn drychineb am ei bod yn awyddus i amddiffyn buddianau economaidd a strategol yr Unol Daleithiau ac atal ymlediad comiwnyddiaeth a sosialaeth yn America Ladin. Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hyn. Ym Medi 1970, dywedodd yr Arlywydd Nixon wrth y CIA nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000 (swm eithaf sylweddol yn 1970) i atal Allende rag ennill grym neu i'w ddymchwel pe bai'n llwyddo i ddod yn arlywydd. Galwyd cynlluniau'r CIA i atal Allende yn "Trac I" a "Trac II"; roedd Trac I yn ceisio atal Allende trwy "ddichell seneddol", tra bod Trac II yn fod i berswadio swyddogion clo ym myddin Chile i weithredu coup pe bai Allende yn ennill.[1]
Ar ôl etholiad 1970, ceisiodd cynnlun Trac I annog yr arlywydd ar fin gorffen ei dymor, Eduardo Frei Montalva, i berswadio ei blaid, y (PDC) i bleidleisio dros Alessandri yn y Gyngres. Byddai Alessandri wedyn yn ymddeol ar unwaith a galw am etholiad newydd. Buasai Eduardo Frei yn rhydd i sefyll eto wedyn yn ôl cyfansoddiad Chile, gyda siawns da efallai i guro Allende. Ond dewisodd Siambr Dirpwryon Chile Allende yn Arlywydd, ar yr amod ei fod yn parchu'r Cyfansoddiad.
Yn ôl rhai sylwebyddion a haneswyr, ni fu rhaid gweithredu Trac II, am fod lluoedd arfog Chile eisoes yn symud i'r cyfeiriad yna.[2] Mae eraill yn dadlau fod y CIA wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllwyn Pinochet ac eraill, neu o leiaf wedi ei hybu'n sylweddol.
Mae'r Unol Daleithiau wedi cydnabod chwarae rhan yng nglweidyddiaeth Chile cyn y coup, ond mae ei rhan yn y coup ei hun yn ddadleuol. Rhybuddwyd y CIA gan eu cysylltiadau yn Chile ddeuddydd o flaen llaw, ond y llinell swyddogol yw na chwareodd y CIA ran uniongyrchol ynddo.[3]
Rhoddwyd cymorth ariannol gan lywodraeth UDA i gefnogi streic gyrrwyr lorïau preifat, a ychwanegodd i'r anhrefn economaidd cyn y coup,[4]
Ar ôl i Pinochet gipio grym, dywedodd Henry Kissinger wrth yr Arlywydd Richard Nixon "na wnaeth yr Unol Daleithiau hyn," ond "mi ddaru ni helpu." (gan gyfeirio at y coup ei hun).[5] Yn ychwanegol, mae dogfennau a ryddhawyd dan lywodraeth Bill Clinton yn dangos bod llywodraeth UDA a'r CIA wedi ceisio cael gwared o Allende yn 1970 cyn iddo ennill grym ("Prosiect FUBELT"). Erys nifer o ddogfennau perthnasol heb eu cyhoeddi.
Cyfeiriadau
- ↑ Hinchey Report Y CIA yn Chile. 18 Medi, 2000. Cyrchwyd 18 Tach., 2006.
- ↑ "Church Report. Covert Action in Chile 1963-1973", 18 Rhagfyr, 1975.
- ↑ CIA Reveals Covert Acts In Chile, CBS News, 19 Medi, 2000.
- ↑ Jonathan Franklin, Files show Chilean blood on US hands, The Guardian, 11 Hydref, 1999.
- ↑ The Kissinger Telcons: Kissinger Telcons on Chile, National Security Archive Electronic Briefing Book No. 123, gol. Peter Kornbluh, postiwyd 26 Mai, 2004. Ceir y deialog ar TELCON: September 16, 1973, 11:50 a.m. Kissinger Talking to Nixon.