Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "AIDS"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 3 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
newidiadau man using AWB
B (r2.7.3) (robot yn ychwanegu: pa:ਏਡਜ਼)
(newidiadau man using AWB)
[[Delwedd:Red_RibbonRed Ribbon.svg|bawd|dde|Defnyddir y rhuban goch fel symbol o HIV ac AIDS]]
Mae '''Syndrom Diffyg Imiwnolegol Caffaeledig''' ({{Iaith-en|Acquired Immune Deficiency Syndrome}}, er fe'i adnabyddir yn amlach gan y talfyriad ''AIDS''), yn ddiffiniad o arwyddion, symptomau, [[haint|heintiau]], a [[canser|chanserau]] sydd yn gysylltiedig â'r diffygiad yn y [[system imiwnedd]] sydd yn deillio o fod yn heintiedig â [[HIV]]. Mae'r cyflwr hwn yn lleihau effeithiolrwydd y [[system imiwnedd]] gan adael unigolyn yn agored i heintiau a thyfiannau manteisgar. Caiff HIV ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol rhwng pilen ludiog neu lif gwaed â hylif corfforol sy'n cynnwys HIV, er enghraifft [[gwaed]], [[semen]], [[hylif gweiniol]], hylif cyn-semen a llaeth y fron. Gellir trosglwyddo'r firws drwy [[rhyw rhefrol|ryw rhefrol]], [[Cyfathrach rywiol|gweiniol]] neu [[rhyw geneuol|eneuol]], trallwysiad gwaed, nodwyddau hypodermig wedi'u heintio, o'r fam i'r baban yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth neu drwy fwydo o'r fron.
 
 
=== Heintiadau'r llwybrau traul ===
Ymffachychiad o leinin ar ran waelod yr oesoffagws (y llwnc neu'r tiwb llyncu a arweinia i'r [[stumog]]) a ydy llid yr oesoffagws. Gyda phobl sydd â HIV, mae hyn o ganlyniad i heintiadau ffwngaidd (candidiasis) neu firaol (herpes simplex-1 neu cytomegalovirus). Mewn ambell i achos prin, gellir ei achosi gan micro-facteria.<ref>[Zaidi SA, Cervia JS (2002). "Diagnosis and management of infectious esophagitis associated with human immunodeficiency virus infection". J. Int. Assoc. Physicians AIDS Care (Chic Ill) 1 (2): 53–62. PMID 12942677. </ref>
 
Gallai fod gan ddolur rhydd cronig anesboniadwy o ganlyniad i heintiad HIV amryw o achosion posib, gan gynnwys bacteria cyffredin (Salmonella, Shigella, Listeria neu Campylobacter) a heintiadau parasitig; rhai o'r heintiadau manteisgar anghyffredin yw cryptosporidiosis, microsporidiosis, Mycobacterium avium complex (MAC) a firysau fel astrovirus, adenovirus, rotavirus a cytomegalovirus.
Mae cymhlyg dementia AIDS yn enseffalopathi metabolig a ddaw yn sgìl heintiad HIV, a chaiff ei yrru gan actifiant imiwnedd ymennydd sydd wedi'i heintio â macroffagau a microglia. Caiff y celloedd hyn eu heintio â HIV gan ryddhau niwro-docsinau o darddiadau firaol ac wrth y cynhaliwr. Gwelir namau niwrolegol penodol ar ffurf anawsterau gwybyddol, ymddygiadol a modurol sy'n digwydd ar ôl blynyddoedd o heintiad HIV a chânt eu cysylltu â lefel celloedd CD4+ T isel a llwyth firaol plasma uchel.
 
Gwelir cyffredinolrwydd o 10-20% mewn gwledydd Gorllewinol <ref>Grant I, Sacktor H, McArthur J (2005). "HIV neurocognitive disorders". in H. E. Gendelman, I. Grant, I. Everall, S. A. Lipton, and S. Swindells. (ed.) (PDF). The Neurology of AIDS (2nd ed.). London, UK: Oxford University Press. td. 357–373. ISBN 0-19-852610-5. </ref> gyda 1-2% o heintiadau HIV yn yr [[India]].<ref>Satishchandra P, Nalini A, Gourie-Devi M, et al (2000). "Profile of neurologic disorders associated with HIV/AIDS from Bangalore, South India (1989–1996)". Indian J. Med. Res. 11: 14–23. PMID 10793489.</ref> O bosib, gellir priodoli'r gwahaniaeth hwn i'r is-fath o HIV yn India. Weithiau gwelir mania'n gysylltiedig ag AIDS mewn cleifio gydag afiechyd HIV datblygedig; mae'n arddangos ei hun gyda mwy o namau gwybyddol a llai ewfforig na thro manig a gysylltir ag [[anhwylder deubegwn]] go iawn. Yn aml, gwelir y cyflwr hwn wrth ddechrau triniaeth aml-gyffur.
 
== Hanes ==
== Cymdeithas a diwylliant ==
=== Stigma ===
[[Delwedd:Ryan_WhiteRyan White.jpg|bawd|dde|Ymddangosodd [[Ryan White]] ar bosteri ynglŷn â HIV ar ôl i'w ysgol ei wahardd oherwydd fod ganddo HIV.]]Gwelir stigma ynglŷn ag AIDS mewn amryw ffyrdd ledled y byd. Gall y ffyrdd yma gynnwys alltudiaeth, gwahaniaethu ac osgoi pobl sydd â HIV; profi HIV gorfodol heb ganiatâd ymlaen llaw neu sicrwydd o gyfrinacholdeb; trais yn erbyn unigolion sydd â HIV neu bobl y tybir sydd â HIV; a rhoi person sydd â HIV mewn cwarantîn.<ref>[http://data.unaids.org/pub/GlobalReport/2006/2006_GR_CH04_en.pdf "The impact of AIDS on people and societies"](PDF). Adroddiad 2006 ar yr epidemig AIDS fyd-eang.] UNAIDS. Adalwyd 29-03-2009</ref> Mae ofn o drais yn sgìl y stigma yn rhwystro rhai pobl rhag cael eu profi, dychwelyd i gael eu profion neu dderbyn triniaeth, ac o ganlyniad yn troi afiechyd y gellir delio ag ef yn ddedfryd o farwolaeth.<ref>Ogden J, Nyblade L (2005). [http://www.icrw.org/docs/2005_report_stigma_synthesis.pdf "Common at its core: HIV-related stigma across contexts"] (PDF). International Center for Research on Women. Adalwyd ar 2007-02-15.</ref>
 
Yn aml, mae'r stigma o AIDS yn gysylltiedig â gwarthnodau eraill, yn benodol gwarthnodau a gysylltir â [[cyfunrywioldeb|chyfunrywioldeb]], [[deurywioldeb]], anfoesoldeb [[rhywiol]], [[puteindra]] a'r defnydd o [[cyffuriau|gyffuriau]] mewnwythiennol.
 
Mewn nifer o [[gwledydd datblygedig|wledydd datblygedig]], ceir cysylltiad rhwng AIDS â chyfunrywioldeb neu deurywioldeb, ac mae'r cysylltiad hwn yn cyd-fynd â lefelau uwch a [[rhagfarn]] rywiol fel agweddau [[homoffobig]].<ref>[http://psychology.ucdavis.edu/rainbow/html/ajph2002.pdf. "HIV-related stigma and knowledge in the United States: prevalence and trends, 1991-1999" (PDF).] Herek GM, Capitanio JP, Widaman KF (2002). Am J Public Health 92 (3): 371–7. PMID 11867313. Adalwyd 2008-03-10 </ref> Hefyd, gwelir cysylltiad rhwng AIDS a holl ymddygiad rhywiol gwryw-i-wryw, gan gynnwys rhyw rhwng dynion sydd heb eu heintio.<ref>[http://psychology.ucdavis.edu/rainbow/html/abs99_sp.pdf. "AIDS Stigma and sexual prejudice" (PDF)] Herek GM, Capitanio JP (1999). . American Behavioral Scientist 42 (7): 1130-1147. doi:10.1177/0002764299042007006. Adalwyd 2006-03-27.</ref>
 
== Gweler hefyd ==
== Dolenni Allanol ==
* {{eicon en}} [http://data.unaids.org/pub/FactSheet/2008/20080519_fastfacts_hiv_en.pdf Fast fact about HIV] o wefan [[UNAIDS]] (''Joint United Nations Programme On HIV/AIDS'').
 
[[Categori:Afiechydon]]
[[Categori:Rhyw]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|dv}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|fa}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|he}}
 
[[Categori:Afiechydon]]
[[Categori:Rhyw]]
 
[[af:Vigs]]
420,642

golygiad

Llywio