Hugo Chávez: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: als:Hugo Chávez |
|||
Llinell 53: | Llinell 53: | ||
{{Cyswllt erthygl ddethol|zh}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|zh}} |
||
[[als:Hugo Chávez]] |
|||
[[am:ሁጎ ቻቬዝ]] |
[[am:ሁጎ ቻቬዝ]] |
||
[[an:Hugo Chávez]] |
[[an:Hugo Chávez]] |
Fersiwn yn ôl 20:10, 6 Mawrth 2013
Hugo Chávez | |
Hugo Chávez
| |
61ain Arlywydd Venezuela
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 2 Chwefror, 1999 | |
Rhagflaenydd | Rafael Caldera |
---|---|
Geni | 28 Gorffennaf 1954 Sabaneta, Barinas, Venezuela |
Marw | 5 Mawrth 2013 | (58 oed)
Plaid wleidyddol | Plaid Sosialaidd Unedig Venezuela |
Priod | Nancy Colmenares (ysg.) Marisabel Chávez (ysg.) |
Arlywydd Venezuela o 1999 hyd 2013 oedd Hugo Rafael Chávez Frías (IPA: 'uɣo rafa'el 'tʃaβes 'fɾias (28 Gorffennaf 1954 – 5 Mawrth 2013). Fel arweinydd y Chwyldro Bolifariaidd hybodd ei weledigaeth o sosialaeth ddemocrataidd drwy ddiwygio cymdeithasol ac roedd yn feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.
Dywedir iddo sefydlu mudiad asgell-chwith o'r enw Fifth Republic Movement wedi methiant y coup i ddiorseddu'r Arlywydd Carlos Andrés Pérez yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda maniffesto yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000, yn 2006 ac yn 2012. O fewn ei wlad roedd yn frwdfrydig iawn dros datblygiadau economaidd amgen; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn Ne America.
Roedd yn ddyn oedd yn barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd America Ladin.[1]
Y cyfnod cynnar
Cafodd ei fagu ar aelwyd gweithiol yn Sabaneta, Barinas. Wedi cyfnod fel swyddog yn y fyddin sefydlodd MBR-200 yn y 1980au cynnar gyda'r nod o ddymchwel Llywodraeth yr Arlywydd Carlos Andrés Pérez. Yn 1992 aflwyddiannus oedd ei ymdrech i wneud hyn drwy coup d'état a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd. Yn dilyn ei ryddhau o'r carchar sefydlodd plaid sosialaidd, democrataidd o'r enw Mudiad y Pumed Gweriniaeth.
Diwygio cymdeithasol
Yn 1998 fe'i etholwyd yn Arlywydd Venezuela. Canlyniad ei bolisiau i adfer diwydiant a chymdeithas (Cyfansoddiad Newydd y Llywodraeth, 1999) oedd: gwladoli sawl diwydiant allweddol, cynyddu nawdd y Llywodraeth ym maesydd iechyd a gofal ac addysg, a lleihau tlodi.[2]
Beirniadu George W. Bush
Ar 20 Medi, 2006, areithiodd Chávez i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan gondemnio George W. Bush (Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd) yn hallt.[3] Yn yr araith, fe alwodd ef Bush yn "Ddiafol", gan gyfeirio at y ffaith i Bush fod yn areithio yn yr un fan y diwrnod cynt "to share his nostrums to try to preserve the current pattern of domination, exploitation and pillage of the peoples of the world."[4] Er iddo gael ei feirniadu am hyn gan y cyfryngau a gwleidyddion led-led y byd, [5] fe dderbyniodd Chávez gymeradwyaeth frwdfrydig. [6].
Salwch a marwolaeth
Bu farw ar y 5ed o Fawrth 2013 yn dilyn dwy flynedd o frwydro yn erbyn cancr. Cyhoeddwyd cyfnod saith niwrnod o fwrnio cenedlaethol drwy'r wlad i'w goffáu.