Stanley Long: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yerauy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fr:Stanley Long
Llinell 30: Llinell 30:
[[en:Stanley Long]]
[[en:Stanley Long]]
[[es:Stanley Long]]
[[es:Stanley Long]]
[[fr:Stanley Long]]
[[ja:スタンリー・ロング]]
[[ja:スタンリー・ロング]]

Fersiwn yn ôl 15:56, 6 Mawrth 2013

Stanley Long 2010.

Gwneuthurwr ffilmiau sexploitation a Sais oedd Stanley Alfred Long (26 Tachwedd 1933 – 10 Medi 2012) oedd yn enwog am ei gomedïau rhyw a wnaed ar gyllideb isel yn y 1960au a'r 1970au.[1] Ei ffilm fwyaf llwyddiannus oedd Adventures of a Taxi Driver.

Ganwyd yn Llundain.[2] Cychwynnodd ei yrfa fel ffotograffydd i'r Picture Post, cyn iddo wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol. Ar ôl gadael yr awyrlu, tynodd luniau noeth i gylchgrawn dynion.[1]

Cynhyrchodd ffilmiau â'i gwmni Stag Films, gan gynnwys mwy na 150 o ffilmiau byrion yn llawn maswedd a merched noeth. Gwnaed West End Jungle, ffilm ddogfen am y diwydiant rhyw yn Soho, a gafodd ei gwahardd gan y BBFC hyd at 2008.[1] Ymysg yr enwogion a ymddangosodd yn ei ffilmiau oedd Diana Dors, Liz Fraser, Irene Handl, Ian Lavender, a Pauline Collins. Miliwnydd oedd Long erbyn iddo gyrraedd 36 oed.[3]

Yn hwyrach, gweithiodd Long â'r cwmni ôl-gynhyrchu Salon ar ffilmiau gan gynnwys V for Vendetta a Batman Begins.[2]

Ffilmyddiaeth ddethol

  • Nudist Memories (1959)
  • Take Off Your Clothes and Live (1963)
  • West End Jungle (1964)
  • London in the Raw (1964)
  • Primitive London (1965)
  • The Wife Swappers (1969)
  • Adventures of a Taxi Driver (1976)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Stanley Long 'King of Sexploitation' dies. BBC (13 Medi 2012). Adalwyd ar 13 Medi 2012.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Sandwell, Ian (12 Medi 2012). 'King of Sexploitation’ Stanley Long dies, aged 78. ScreenDaily. Adalwyd ar 13 Medi 2012.
  3. (Saesneg) Barnes, Anthony (13 Medi 2012). 'King of sexploitation' Stanley Long dies. The Independent. Adalwyd ar 13 Medi 2012.