Terfysgaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: tt:Террорчылык |
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: sco:Terrorism |
||
Llinell 116: | Llinell 116: | ||
[[sah:Терроризм]] |
[[sah:Терроризм]] |
||
[[scn:Tirrurìsimu]] |
[[scn:Tirrurìsimu]] |
||
[[sco:Terrorism]] |
|||
[[sh:Terorizam]] |
[[sh:Terorizam]] |
||
[[si:ත්රස්තවාදය]] |
[[si:ත්රස්තවාදය]] |
Fersiwn yn ôl 09:56, 6 Mawrth 2013
Defnyddio braw a thrais i geisio gorfodi rhywun i wneud rhywbeth yw terfysgaeth.
Diffiniad
Nid yw diffiniad cynhwysfawr o derfysgaeth yn bodoli. Mae un ddiffiniad cryno yn haeru taw "trosedd â chymhelliad gwleidyddol gyda'r nod o newid ymddygiad y gynulleidfa a dargedir" yw terfysgaeth.[1] Yn ei waith Terrorism and the Liberal State (1986), crybwyllodd Paul Wilkinson nifer o ffactorau wrth geisio ddiffinio terfysgaeth wleidyddol: y defnydd o fraw i orfodi rhywun i wneud rhywbeth, a'r defnydd o lofruddiaeth a dinistr, neu'r bygythiad o hynny, i orfodi unigolion neu grwpiau i ufuddhau i orchmynion y terfysgwr. Mae terfysgaeth felly yn fodd o ryfela seicolegol sydd yn defnyddio bygythiad fel ei phrif arf.[2]
Label wleidyddol yw terfysgaeth[3] sydd bron byth yn cael ei mabwysiadu'n wirfoddol gan unigolyn neu garfan i ddiffinio'u hunain.[4] Bron wastad y mae gan y term "terfysgw(y)r" ddelwedd negyddol, ac felly defnyddir termau megis "gwrthryfelwyr", "chwyldroadwyr", "aelodau milisia", neu "gerilas", sydd weithiau â chynodiadau positif gennynt, gan unigolion a grwpiau i ddisgrifio'u hunain.[5]
Strategaeth a ddefnyddir yn aml er pwrpasau ideolegol yw terfysgaeth, ac nid ideoleg ynddi'i hunan.[1] Ymgeisia rhai i lunio deipoleg o "weithredoedd terfysgol" yn seiliedig ar dactegau nodweddiadol terfysgwyr yn hytrach na diffiniad o derfysgaeth, ond mae gan hyn hefyd ei broblemau ei hunan. Er enghraifft, gellir gwahaniaethu rhwng tactegau milwrol confensiynol a thactegau terfysgol megis bradlofruddio a herwgipio, ond mae'r rhain yn weithredoedd troseddol cyffredinol yn ogystal ac nid yn unigryw i derfysgaeth. Mae'n debyg nid oes math arbennig o weithgarwch sy'n unigol i derfysgaeth.[6]
Gwahaniaethu o ffenomenau eraill
Ymgeisir diffiniadau i wahaniaethu rhwng terfysgaeth a mathau eraill o drais gwleidyddol,[7] megis rhyfela herwfilwrol (gerila), terfysg, bradlofruddiaeth, a difrod bwriadol, a thrais troseddol a rhyfel yn gyffredinol.[4] Dadleua Robert Keohane taw prif ffactor nodweddiadol terfysgaeth, sy’n ei gwahaniaethu o ffurfiau eraill o drais, yw ei hamcan o "ddychrynu cynulleidfa yn hytrach na ddinistrio gelyn".[8] Pwysleisiodd Brian Michael Jenkins taw tynnu sylw nifer o bobl yw amcan terfysgwyr yn bennaf, nid niwedio nifer o bobl.[9]
Modd o wahaniaethu rhwng terfysgaeth a rhyfel yw sylwi ar yr elfen o ornest o fewn rhyfel, hynny yw y brwydro rhwng dau weithredydd o fewn cyd-destun milwrol confensiynol, tra bo terfysgaeth yn ddewis i'r "rhai sydd yn rhy wan i wrthwynebu gwladwriaethau mewn modd agored".[10] Ond dadleua Noam Chomsky nid yw terfysgaeth yn arf i'r gwan yn unig, ond hefyd yn arf i'r cryf; ond yn achos gwladwriaethau, fe'i gelwir yn "wrthderfysgaeth", "rhyfela ar raddfa isel", neu "hunanamddiffyniad" (yn hytrach na therfysgaeth wladwriaethol).[11]
Wrth gymharu rhyfela herwfilwrol a therfysgaeth, y gwahaniaeth pennaf yw sut mae'r ddwy strategaeth yn gweld eu targedau: i gerilas, lluoedd gwladwriaethol yw'r prif darged, a thrwy hyn caiff sifiliaid eu niweidio ar ddamwain neu fel sgîl-effaith; i derfysgwyr, sifiliaid yw'r prif darged ac osgoir ymosod ar wrthwynebwyr arfog. Yn ogystal, ffenomen wledig yw rhyfela herwfilwrol yn gyffredinol tra bo terfysgaeth gan amlaf yn digwydd mewn ardaloedd trefol.[7] Yn achos terfysgaeth wladwriaethol, ymgeisir gwahaniaethu rhyngddi a ffurfiau eraill o drais wladwriaethol, megis hil-laddiad.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Weinberg a Davis (1989), t. 6.
- ↑ Wilkinson (1986), t. 51.
- ↑ Weinberg a Davis (1989), t. 3.
- ↑ 4.0 4.1 Townshend (2002), t. 3.
- ↑ Laqueur (2003), t. 232.
- ↑ Townshend (2002), t. 5.
- ↑ 7.0 7.1 Weinberg a Davis (1989), t. 7.
- ↑ Keohane (2002), t. 142.
- ↑ Jenkins (1975), t. 158.
- ↑ Townshend (2002), t. 6–7.
- ↑ Chomsky (2002), t. 134.
Ffynonellau
- Chomsky, N. (2002) 'Who Are the Global Terrorists?'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 128–37. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
- Jenkins, B. (1975) 'International terrorism: A balance sheet'. Survival, 17(4), tt. 158–64.
- Keohane, R. O. (2002) 'The Public Delegitimation of Terrorism and Coalitional Politics'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 141–51. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
- Laqueur, W. (2003) No End to War: Terrorism in the Twenty-First Century. Llundain: Continuum.
- Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Weinberg, L. B. a Davis, P. B. (1989) Introduction to Political Terrorism. Efrog Newydd: McGraw-Hill.
- Wilkinson, P. (1986) Terrorism and the Liberal State. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Efrog Newydd.