Hugo Chávez: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vec:Hugo Chávez
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ln:Hugo Chávez
Llinell 101: Llinell 101:
[[lad:Hugo Chávez]]
[[lad:Hugo Chávez]]
[[lb:Hugo Chávez]]
[[lb:Hugo Chávez]]
[[ln:Hugo Chávez]]
[[lt:Hugo Chávez]]
[[lt:Hugo Chávez]]
[[lv:Ugo Čavess]]
[[lv:Ugo Čavess]]

Fersiwn yn ôl 09:28, 6 Mawrth 2013

Hugo Chávez
Hugo Chávez


Deiliad
Cymryd y swydd
2 Chwefror, 1999
Rhagflaenydd Rafael Caldera

Geni 28 Gorffennaf 1954(1954-07-28)
Sabaneta, Barinas, Venezuela
Marw 5 Mawrth 2013(2013-03-05) (58 oed)
Plaid wleidyddol Plaid Sosialaidd Unedig Venezuela
Priod Nancy Colmenares (ysg.)
Marisabel Chávez (ysg.)

Arlywydd Venezuela o 1999 hyd 2013 oedd Hugo Rafael Chávez Frías (IPA: 'uɣo rafa'el 'tʃaβes 'fɾias (28 Gorffennaf 19545 Mawrth 2013). Fel arweinydd y Chwyldro Bolifariaidd hybodd ei weledigaeth o sosialaeth ddemocrataidd drwy ddiwygio cymdeithasol ac roedd yn feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.

Dywedir iddo sefydlu mudiad asgell-chwith o'r enw Fifth Republic Movement wedi methiant y coup i ddiorseddu'r Arlywydd Carlos Andrés Pérez yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda maniffesto yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000, yn 2006 ac yn 2012. O fewn ei wlad roedd yn frwdfrydig iawn dros datblygiadau economaidd amgen; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn Ne America.

Roedd yn ddyn oedd yn barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd America Ladin.[1]

Y cyfnod cynnar

Cafodd ei fagu ar aelwyd gweithiol yn Sabaneta, Barinas. Wedi cyfnod fel swyddog yn y fyddin sefydlodd MBR-200 yn y 1980au cynnar gyda'r nod o ddymchwel Llywodraeth yr Arlywydd Carlos Andrés Pérez. Yn 1992 aflwyddiannus oedd ei ymdrech i wneud hyn drwy coup d'état a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd. Yn dilyn ei ryddhau o'r carchar sefydlodd plaid sosialaidd, democrataidd o'r enw Mudiad y Pumed Gweriniaeth.

Diwygio cymdeithasol

Yn 1998 fe'i etholwyd yn Arlywydd Venezuela. Canlyniad ei bolisiau i adfer diwydiant a chymdeithas (Cyfansoddiad Newydd y Llywodraeth, 1999) oedd: cenedlaetholi sawl diwydiant allweddol, cynyddu nawdd y Llywodraeth ym maesydd iechyd a gofal ac addsyg, a lleihau tlodi.[2]

Beirniadu George W. Bush

Ar 20 Medi, 2006, areithiodd Chávez i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan gondemnio George W. Bush (Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd) yn hallt.[3] Yn yr araith, fe alwodd ef Bush yn "Ddiafol", gan gyfeirio at y ffaith i Bush fod yn areithio yn yr un fan y diwrnod cynt "to share his nostrums to try to preserve the current pattern of domination, exploitation and pillage of the peoples of the world."[4] Er iddo gael ei feirniadu am hyn gan y cyfryngau a gwleidyddion led-led y byd, [5] fe dderbyniodd Chávez gymeradwyaeth frwdfrydig. [6].

Salwch a marwolaeth

Bu farw ar y 5ed o Fawrth 2013 yn dilyn dwy flynedd o frwydro yn erbyn cancr. Cyhoeddwyd cyfnod saith niwrnod o fwrnio cenedlaethol drwy'r wlad i'w goffáu.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gweler gwefan Saesneg y BBC: [1]
  2. Ian James (4 Hydref 2012). "Venezuela vote puts 'Chavismo' to critical test". Yahoo. Cyrchwyd 2 Chwefror 2013.
  3. Gweler y fideo llawn o'r araith[2]
  4. CNN: [3]
  5. Gweler CNN (Saesneg) [4] "Don't bash Bush"
  6. CBS News. "The Devil And Mr. Chavez." (Medi 25, 2006).

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol