Oesoffagws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: new:गःम्वः |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: be-x-old:Стрававод |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[az:Qida borusu (insan)]] |
[[az:Qida borusu (insan)]] |
||
[[be:Стрававод чалавека]] |
[[be:Стрававод чалавека]] |
||
[[be-x-old:Стрававод]] |
|||
[[bg:Хранопровод]] |
[[bg:Хранопровод]] |
||
[[bjn:Rakungan]] |
[[bjn:Rakungan]] |
Fersiwn yn ôl 10:00, 26 Chwefror 2013
Pibell allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r oesoffagws, y sefnig, y bibell fwyd neu'r llwnc (Saesneg: Esophagus/Oesophagus). Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r geg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Roeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli ar yr un lefel â fertebra C6 ac mae'n 25-30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.
Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thorasig ac abdomenol.
Ei waith
Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leinin mwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i mewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system resbiradu â'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.