Chichewa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (Robot: Yn newid it:Lingua chichewa yn it:Lingua chewa
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (Robot: Yn newid tr:Chewa dili yn tr:Çevaca
Llinell 48: Llinell 48:
[[sw:Kinyanja]]
[[sw:Kinyanja]]
[[ta:நியாஞ்ச மொழி]]
[[ta:நியாஞ்ச மொழி]]
[[tr:Chewa dili]]
[[tr:Çevaca]]
[[uk:Ньянджа]]
[[uk:Ньянджа]]
[[vec:Chewa]]
[[vec:Chewa]]

Fersiwn yn ôl 16:30, 25 Chwefror 2013

Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Bantu yw Chichewa neu Chicheŵa, hefyd Chewa. Mae'r rhagddodiad "chi" o flaen "Chewa" yn golygu "iaith". Fe'i siaredir gan 57.2% o'r boblogaeth ym Malawi, lle mae iddi statws iaith genedlaethol (Saesneg yw'r iaith swyddogol). Siardeir Chichewa hefyd yn Sambia, lle mae'n un o'r saith iaith lwythol swyddogol, ac yn Mosambic. Yn Zimbabwe saif yn drydedd o ran defnydd o'i ieithoedd brodorol, ar ôl Shona a Sindebele. Gellir hefyd ei hystyried fel tafodiaith o Shona, iaith sy'n perthyn yn agos iddi.

Daeth yr iaith Chichewa i amlygrwydd yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Maravi, oedd yn rheoli Malawi a rhannau o Fosambic a Sambia rhwng y 15fed a'r 18fed ganrif. Llwyth sy'n byw ger Llyn Malawi yw'r Chewa; mae chicheŵa yn golygu "iaith y Chewa". Mabwysiadwyd yr iaith gan genhadon yn y 19eg ganrif, a chyfieithwyd rhannau o'r Beibl iddi tua diwedd y ganrif honno.