Morffoleg (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: war:Morphology (linguistics) |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid war:Morphology (linguistics) yn war:Morpolohiya (lingguwistika) |
||
Llinell 95: | Llinell 95: | ||
[[uk:Морфологія (мовознавство)]] |
[[uk:Морфологія (мовознавство)]] |
||
[[vi:Hình thái học (ngôn ngữ học)]] |
[[vi:Hình thái học (ngôn ngữ học)]] |
||
[[war: |
[[war:Morpolohiya (lingguwistika)]] |
||
[[zh:词法学]] |
[[zh:词法学]] |
Fersiwn yn ôl 07:51, 23 Chwefror 2013
Mewn ieithyddiaeth, morffoleg yw'r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel morffemau.
Gwahaniaethir rhwng morffoleg ffurfdroadol a morffoleg darddiadol. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis rhif (unigol neu luosog) a chyflwr mewn enwau, neu amser (presennol neu gorffennol) a pherson mewn berfau. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu ansoddeiriau yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r olddodiad -og at fôn enw, megis haul + -og > heulog.
Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis lleihaodd, sy'n cynnwys tair morffem, llai + -ha- 'peri' + -odd 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -ha- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -odd gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.