BlackBerry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid nl:BlackBerry yn nl:BlackBerry (smartphone) |
Chobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.6) (robot yn tynnu: tr:BlackBerry |
||
Llinell 64: | Llinell 64: | ||
[[ta:பிளாக்பெர்ரி]] |
[[ta:பிளாக்பெர்ரி]] |
||
[[th:แบล็คเบอร์รี (โทรศัพท์มือถือ)]] |
[[th:แบล็คเบอร์รี (โทรศัพท์มือถือ)]] |
||
[[tr:BlackBerry]] |
|||
[[uk:BlackBerry]] |
[[uk:BlackBerry]] |
||
[[vi:BlackBerry]] |
[[vi:BlackBerry]] |
Fersiwn yn ôl 06:07, 21 Chwefror 2013
Teulu o ddyfeisiau e-bost symudol a ffonau clyfar yw BlackBerry (neu'r Fiaren fel y caiff ei hadnabod ar lafar), a ddatblygwyd ac a gynlluniwyd gan gwmni o Ganada, sef Research In Motion (RIM) ers 1999.
Mae'r ddyfais hon yn amlbwrpas, gan ei bod yn gweithredu fel cymorthydd digidol personol (personal digital assistants), chwaraewr-cyfryngau symudol (portable media players), porwyr gwe (internet browsers), dyfais chwarae gemau (gaming devices), a llawer mwy. Caiff y fiaren ei brolio'n aml am ei gallu i dderbyn a gwthio ebyst a negeseuon parod (instant messages) (megis Blackberry Messanger) gan gynnal safonau diogelwch uchel iawn drwy amgrypto'r data yn y ddyfais ei hun.
Daeth y ffôn yn boblogaidd dros nos gan fusnesau a'r byd diwydiannol, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar hynny, ymledodd ei hadennydd i gystadlu gydag IPhone ac Android i ennill cwsmeriaid cyffredin gyda gogwydd at gemau a'r angen am raglenni 'cyfryngol' e.e. fideo ac apps.[1]
Draenen ariannol yn ystlys y cwmni
Ar y 30 Mawrth, 2012, cyhoeddodd y cwmni iddyn nhw wneud £78 miliwn o golled yn y chwarter diwethaf. Roedd pob siar yn y cwmni ar y diwrnod hwnnw yn werth llai na $14; siars a fu, yn eu hanterth, yn werth deg gwaith hynny: $140. Cafwyd sawl nwydd a fu'n ffiasgo e.e. lansiwyd y fiaren PlayBook heb y gallu i ddanfon ebost, yn 2011 ac erbyn Mawrth 2012 (flwyddyn yn ddiweddarach) roeddent yn mynd yn rhad fel baw, ar wefannau fel Ebay, er mwyn eu gwared.[2]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Christopher Williams (30/03/2012). BlackBerry beats a shambolic retreat. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 01 Ebrill 2012.
- ↑ Christopher Williams (30/03/2012). BlackBerry beats a shambolic retreat. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 01 Ebrill 2012.