Sgandal cig ceffyl 2013: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3rc2) (Robot: Yn newid sv:Hästköttsskandalen 2013 yn sv:Hästköttsskandalen
HRoestBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 20: Llinell 20:
[[nn:Hestekjøttskandalen]]
[[nn:Hestekjøttskandalen]]
[[ru:Мясной скандал в Европе в начале 2013 года]]
[[ru:Мясной скандал в Европе в начале 2013 года]]
[[sv:Hästköttsskandalen]]
[[sv:Hästköttsskandalen 2013]]
[[zh:2013年欧洲马肉冒充牛肉事件]]
[[zh:2013年欧洲马肉冒充牛肉事件]]

Fersiwn yn ôl 17:12, 18 Chwefror 2013

Cychwynodd sgandal cig ceffyl 2013 ar 15 Chwefror 2013, pan sylweddolwyd (drwy ddadansoddi DNA bwyd mewn siopau yn Ewrop) fod llawer o fwydydd wedi'u cam-labelu. Roedd y cynnwys yn wahanol i'r label, gan ei fod yn cynnwys 60–100%[1] o gig ceffyl yn ogystal â chig eidion. Olrheiniwyd y nwyddau hyn i'r ffatri pecynnu, y ffatri prosesu cig ac oddi yno i'r lladd-dai. Gwnaed hyn, mae'n debyg oherwydd fod cig ceffyl yn llawer rhatach na buwch, ac felly roedd y cwmniau a oedd yn llwyddo i dwyllo'r cwsmer yn y modd hwn yn gwneud mwy o elw; ar adegau defnyddiwyd porc gan ei fod hefyd yn rhatach na chig eidion.[2]

Roedd dwy elfen i'r sgalndal: yn gyntaf yr elfen o dwyllo'r cwsmer, gan fod y label yn wahanol i'r cynnwys. Roedd yr ail elfen yn ymwneud â'r perygl nad oedd y cig yn iach, oherwydd ei fod yn cynnwys cemegolion y ffariar neu afiechydon megis equine infectious anaemia (EIA).

Croesdorriad o'r retrofirws equine infectious anaemia (EIA)

Ymhlith y cwmnïau cyntaf i gydnabod eu heuogrwydd yr oedd Tesco, Asda, Dunnes Stores, Lidl, Aldi ac Iceland. Ychydig wedyn cyhoeddodd Burger King, sydd â dros 500 allfa bwyd parod yn Iwerddon a gwledydd Prydain, eu bônt yn peidio defnyddio un o'u prif gyflenwyr sef Silvercrest.[3]

Cyfeiriadau

  1. "Findus beef lasagne contained horsemeat, company confirms". BBC New. 2013-02-07. Cyrchwyd 2012-02-07.
  2. "Cameron tells supermarkets: horse meat burger scandal unacceptable". Text " World news " ignored (help); Text " guardian.co.uk" ignored (help) 2013-01-16 guardian.co.uk
  3. "Burger King drops Silvercrest as supplier - The Irish Times - dydd Iau, Ionawr 24, 2013". 2013-01-24 irishtimes.com