Louis Dduwiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: oc:Loís lo Piós
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 31: Llinell 31:
[[el:Λουδοβίκος ο Ευσεβής]]
[[el:Λουδοβίκος ο Ευσεβής]]
[[en:Louis the Pious]]
[[en:Louis the Pious]]
[[eo:Ludoviko la 1-a (Francio)]]
[[eo:Ludoviko la 1-a (Sankta Romia Imperio)]]
[[es:Ludovico Pío]]
[[es:Ludovico Pío]]
[[et:Ludwig Vaga]]
[[et:Ludwig Vaga]]

Fersiwn yn ôl 11:17, 18 Chwefror 2013

Louis Dduwiol

Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.

Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Yn ogystal a nifer o ferched, bu ganddo bedwar mab. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.

Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun. Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol