Sevilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ku:Sevilla yn newid: mk:Севилја
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: cbk-zam:Sevilla
Llinell 29: Llinell 29:
[[bs:Sevilla]]
[[bs:Sevilla]]
[[ca:Sevilla]]
[[ca:Sevilla]]
[[cbk-zam:Sevilla]]
[[chy:Sevilla]]
[[chy:Sevilla]]
[[ckb:سێڤیلیا]]
[[ckb:سێڤیلیا]]

Fersiwn yn ôl 00:02, 18 Chwefror 2013

Sevilla - rhan o'r hen ddinas

Sevilla (neu Seville) yw prif ddinas artistaidd, diwyllianol ac ariannol de Sbaen, ar lannau Afon Guadalquivir (37°22′38″Gog., 5°59′13″Gor.). Mae'n brifddinas Andalusia a thalaith Sevilla. Gelwir dinesyddion y ddinas yn Sevillanos (benywaidd: Sevillanas). Mae gan yr ardal ddinesig boblogaeth o 704,154 (amcanfyfrif 2005), neu 1,043,000 yn cynnwys ei bwrdeisdrefi mewnol (amcangyfrif 2000), neu 1,317,098 am yr ardal fetropolitaidd gyfan (amcangyfrif 2005), sy'n ei gwneud yr ardal fetropolitaidd bedwaredd yn Sbaen. Mae ganddi borthladd eithaf pwysig ar y Guadalquivir sy'n agored i longau cefnfor.

Bu'n ddinas bwysig yn nhalaith Rufeinig Hispania Baetica a daeth yn ganolfan ddiwylliannol flodeuog yng nghyfnod teyrnas Mwraidd Al-Andalus (711 - 1248). Un o'i llenorion enwocaf yn y cyfnod hwnnw oedd y bardd Ibn Sahl. Erbyn yr 16eg ganrif roedd Sevilla yn un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen gyda monopoli ar y fasnach rhwng y wlad honno a'r Indies Gorllewinol. Ganwyd y peintwyr Velázquez a Murillo yno.

Mae gan y ddinas brifysgol, a sefydlwyd yn 1502, ac un o'r eglwysi cadeiriol mwyaf yn y byd (1401 - 1591). Un o uchafbwyntiau calendr diwyllianol y ddinas yw'r Ŵyl Basg enwog. Mae Eglwys Gadeiriol Sevilla, yr Alcázar a'r Archivo de Indias yn Safle Treftadaeth y Byd.

Pobl enwog o Sevilla


Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato