Bwlch Khyber: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: it:Passo Khyber |
JYBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (Robot: Yn newid eu:Khyber igarobidea yn eu:Khyber ataka |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[en:Khyber Pass]] |
[[en:Khyber Pass]] |
||
[[es:Paso Jaiber]] |
[[es:Paso Jaiber]] |
||
[[eu:Khyber |
[[eu:Khyber ataka]] |
||
[[fa:تنگه خیبر]] |
[[fa:تنگه خیبر]] |
||
[[fi:Khaibarsola]] |
[[fi:Khaibarsola]] |
Fersiwn yn ôl 21:02, 11 Chwefror 2013
Bwlch enwog yng nghadwyn Safid Kuh yn yr Hindu Kush yw Bwlch Khyber (neu Khaybar neu Khaibar). Mae'r bwlch yn gorwedd 1072m (3518 troedfedd) i fyny mewn tir lled-anial ac mae'r ffordd sy'n ei groesi yn cysylltu Kabul, prifddinas Afghanistan a thref Peshawar ym Mhacistan.
Mae'r Khyber yn fwlch o bwys strategol mawr ers cyn cof. Mae'n gorwedd ar y llwybr rhwyddaf sydd i'w gael i groesi mynyddoedd creigiog uchel yr Hindu Kush rhwng gogledd eithaf y gadwyn honno a bryniau isel Wasiristan i'r de.
Ar yr ochr Affganaidd mae'r ffordd iddo yn codi rhwng clogwynni syrth anferth ar lan ddeheuol Afon Kabul, yn bennaf, o gyfeiriad tref Jalalabad. Ar yr ochr Bacistanaidd mae'r tir yn fwy agored ac mae'r ffordd yn croesi'r ffin yng nghanol clwstwr o fryniau bach ac yna'n disgyn ar gwrs igam-ogam i lawr i'r gwastadeddau a Peshawar.
Mae'r Khyber yn gorwedd yn nhiriogaeth led-annibynnol llwyth yr Affridiaid ac yn rhan o dalaith Khyber Pakhtunkhwa. Sawl gwaith dros y canrifoedd mae'r Affridiaid, sy'n barod iawn i warchod eu hannibyniaeth, wedi ymosod ar fyddinoedd estron a geisiai groesi'r bwlch, gan gynnwys byddin Prydain yn y 19eg a hanner cyntaf yr 20fed ganrif.