Mons veneris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mae'r rhestr enwau ar y chwyn yn amlwg
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: zh:阴阜
Llinell 42: Llinell 42:
[[tl:Mons pubis]]
[[tl:Mons pubis]]
[[uk:Лобок]]
[[uk:Лобок]]
[[zh:阴阜]]

Fersiwn yn ôl 18:41, 10 Chwefror 2013

Mynydd Gwener

Mewn anatomeg ddynol y mons veneris, y mons pubis neu'r mons Venus (gair Lladin sy'n golygu Mwnt Gwener) ydy'r bryncyn bychan o feinwe a braster yn y rhan lle gorwedd y cedor ac asgwrn y piwbis. Mae'n fwy amlwg mewn merched nag ydyw mewn dynion a dydy'r term mons veneris ddim yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhan yma o gorff dynion fel rheol, ond mons pubis (Cymreigiad: mons piwbis, "mwnt y piwbis"). Ar ôl glasoed, pan fo llif yr estrogen yn gryf, caiff ei orchuddio â blewiach mân.

Mewn oedolyn benywaidd, mae'r mons yn ymrannu'n labia majora ar boptu'r hollt hwnnw a elwir hollt Gwener sy'n amgylchynnu'r clitoris, agoriad y wain a strwythurau eraill o fewn y fylfa. Mae'r mons veneris felly'n gwthio'r fylfa allan oddi wrth y corff pan fo'r ferch yn sefyll.

Nid yw ei bwrpas yn wybodus i'r anatomegydd, ond un posibilrwydd yw ei fod yn amlygu'r organau rhywiol, fel modd o geisio denu cymar.