Saeson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB |
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: sco:Inglis fowk |
||
Llinell 75: | Llinell 75: | ||
[[ru:Англичане]] |
[[ru:Англичане]] |
||
[[sah:Ааҥллар]] |
[[sah:Ааҥллар]] |
||
[[sco:Inglis fowk]] |
|||
[[sh:Englezi]] |
[[sh:Englezi]] |
||
[[simple:English people]] |
[[simple:English people]] |
Fersiwn yn ôl 17:20, 10 Chwefror 2013
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
90 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
DU: 45 miliwnYr Unol Daleithiau: 28 miliwnCanada: 6 miliwnAwstralia: 6 miliwn | |
Ieithoedd | |
Saesneg | |
Crefydd | |
Cristnogaeth, arall, dim | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Americaniaid, Canadiaid, Awstraliaid, a phobloedd Saesneg eraill. Hefyd Ffrisiaid, Iseldirwyr, Almaenwyr, Llychlynwyr |
Y Saeson yw'r grŵp ethnig a chenedl a gysylltir â Lloegr yn bennaf, er bod nifer sylweddol ohonynt yn byw mewn gwledydd eraill hefyd.
Mae'r enw "Saeson" yn Gymraeg yn dod o enw llwyth y Sacsoniaid. Ond dim ond un o sawl llwyth o bobl Almaenaidd a ddaeth i Brydain o ddiwedd y 5ed ganrif ymlaen oedd y Sacsoniaid. Gyda'r llwythau eraill fe'i helwir yn Eingl-sacsonaidd gan haneswyr. Mae'r gair 'Eingl-sacsonaidd' yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr iaith Saesneg fel ansoddair cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg', e.e. the Anglo-Saxon world am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir yr elfen arall yn y gair hwnnw, sef 'Eingl' (enw llwyth arall), i gyfeirio at Loegr a phethau Seisnig hefyd. Mae'n cael ei ymestyn yn aml yn Saesneg i gyfeirio at Brydain ei hun. e.e. mae'n arfer sôn am Anglo-French yn y cyfryngau Saesneg wrth gyfeirio at Brydain a Ffrainc. Daw'r gair English o'r enw Eingl/Angle.
Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' yn yr iaith lafar yn aml i gyfeirio at bobl Saesneg eu hiaith, neu ddi-Gymraeg, yn hytrach na phobl sy'n dod yn benodol o Loegr. Ond mae rhai pobl yn meddwl bod hyn yn sarhaus, fel dweud ei bod hi'n amhosib fod yn Gymro/-aes go iawn heb fedru siarad y Gymraeg. Er hynny, ceir enghraifft gynnar iawn o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "rhywun sy'n medru siarad Saesneg" yn llysenw'r bardd Elidir Sais (fl. cyfnod Llywelyn Fawr).