Hizb al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: eo:Movado Ennahda
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ko:나흐다 (정당)
Llinell 35: Llinell 35:
[[ja:ナフダ]]
[[ja:ナフダ]]
[[ka:ტუნისის აღორძინების პარტია]]
[[ka:ტუნისის აღორძინების პარტია]]
[[ko:나흐다 (정당)]]
[[ml:അന്നഹ്ദ]]
[[ml:അന്നഹ്ദ]]
[[ms:Parti Ennahda]]
[[ms:Parti Ennahda]]

Fersiwn yn ôl 15:49, 8 Chwefror 2013

Erthygl am y blaid wleidyddol yw hon; am y mudiad diwylliannol gweler al-Nahda.

Plaid wleidyddol Islamig waharddedig yn Tunisia yw Hizb al-Nahda neu Hizb Ennahda (Arabeg النهضة "Plaid y Dadeni"; Ffrangeg, Parti de la Renaissance). Ei llywydd presennol, mewn alltudiaeth, yw Rached Ghannouchi.

Arwyddlun Hizb al-Nahda

Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw Action islamique, wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn 1989 i Hizb al-Nahda.[1] Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau Sayyid Qutb a Maududi, o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid democratiaeth a ffurf "Tunisiaidd" ar Islamiaeth a fyddai'n cydnabod lluosogaeth wleidyddol. Galwant hefyd am drafod gyda'r Gorllewin. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld cyfansoddiad gwaelodol Islamaidd yn lle'r un seciwlar presennol yn Tunisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, Rashid Al-Ghannushi, o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan llywodraeth Tunisia oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.

Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, Al-Fajr. Cafodd golygydd Al Fajr, Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn 1992 am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y wladwriaeth." Caniatawyd i aelodau o Al Nahda sefyll yn etholiadau 1989 ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn 1991. Credir fod yr orsaf teledu Arabeg El Zeitouna yn gysylltiedig ag al-Nahda.

Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar 27 Chwefror 2006, fel rhan o amnesti cyffredinol i garcharorion gwleidyddol, rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn Zine Abedine Ben Ali, Llywydd Tunisia.[2]

Cyfeiriadau

  1. Columbia World Dictionary of Islamism, Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5
  2. Erthygl ar www.nawaat.org

Dolenni allanol