Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
map
Llinell 9: Llinell 9:
| population =
| population =
| civil_parish =
| civil_parish =
| unitary_wales = [[Sir Benfro]]
| unitary_wales = [[Ceredigion]]
| lieutenancy_wales = [[Dyfed]]
| lieutenancy_wales = [[Dyfed]]
| region = [[Dyfed]](rhanbarth)
| region = De Cymru
| constituency_westminster = [[Preseli Sir Benfro (etholaeth seneddol)|Preseli Sir Benfro]]
| constituency_westminster = [[Preseli Sir Benfro (etholaeth seneddol)|Preseli Sir Benfro]]
| post_town = CILGERRAN
| post_town = CILGERRAN

Fersiwn yn ôl 14:09, 5 Chwefror 2013

Cyfesurynnau: 52°03′12″N 4°38′02″W / 52.05322°N 4.63396°W / 52.05322; -4.63396
Cilgerran

Y Castell
Cilgerran is located in Ceredigion
Cilgerran

 Cilgerran yn: Ceredigion
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CILGERRAN
Cod deialu 01239
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Preseli Sir Benfro
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion
Delwedd:Jth00208.jpg
Hen ffotograff gan John Thomas o ffair yng Nghilgerran yn 1885.

Mae Cilgerran yn dref fechan yng ngogledd Sir Benfro, ger Aberteifi. Saif y dref ar lethrau deheuol Dyffryn Teifi gyferbyn â Llechryd. Mae ffyrdd yn ei gysylltu ag Aberteifi a Llechryd i'r gogledd ac Abercuch a Chastell Newydd Emlyn i'r dwyrain.

Yn ymyl y dref ceir adfeilion Castell Cilgerran, castell Normanaidd o'r 13eg ganrif. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif.

Mae'r cyfeiriad cynharaf at y dref yn dyddio i 1204 fel maenor yr arglwyddiaeth leol ; parhaodd yn faenor hyd yr 16eg ganrif. Er ei bod yn fychan roedd yn cael ei hystyried yn uno brif trefi marchnad Sir Benfro yn yr 17eg ganrif, ac fe ddaeth yn fwrdeistref farchnad. Mae'r hynafiaethydd George Owen, yn 1603, yn ei disgrifio fel un o bum bwrdeistref ym Mhenfro gyda portreeve.

Cynhelir ras cwragl ger y dref. Mae'r ras, a gychwynwyd yn 1950, yn denu cystadleuwyr o sawl gwlad.

Ym mynwent eglwys Llawddog Sant ceir maen hir gydag arysgrifiadau Ogam arno. Hefyd yn y fynwent mae bedd yr anturiaethwr William Logan, a gysylltir â Mynydd Logan, Canada.

Bu Cilgerran yn enwog ar un adeg am safon y llechi a gloddiwyd yn yr ardal ac a allforiwyd o Aberteifi.

Mae Cilgerran yn un o wardiau etholaethol Sir Benfro gyda'i chyngor etholedig ei hun.