Esblygiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: am:ዝግመተ ለውጥ
ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB
Llinell 6: Llinell 6:
Newidiad dros amser nodweddion etifeddedig mewn [[poblogaeth]]au yw '''esblygiad'''. Esblygiad sydd yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y [[Daear|Ddaear]] heddiw. Gan fod rhai unigolion yn [[atgenhedlu]] yn fwy llwyddianus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddianus, neu i fanteisio'n well o'u [[amgylchedd]]—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w amgylcheddion. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.

Mae ein dealltwriaeth heddiw o [[bioleg|fioleg]] esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau [[Alfred Russel Wallace]] a [[Charles Darwin]] ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd [[Charles Darwin]] ei ''[[On the Origin of Species]]''. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw [[Gregor Mendel]] a'i waith ar [[planhigyn|blanhigion]] a'r hyn rydym yn ei alw'n [[etifeddeg]] a [[genyn|genynau]].<ref>[http://www.accessexcellence.org/RC/AB/BC/Gregor_Mendel.html Gwefan Saesneg National Health Museum]</ref>
Mae ein dealltwriaeth heddiw o [[bioleg|fioleg]] esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau [[Alfred Russel Wallace]] a [[Charles Darwin]] ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd [[Charles Darwin]] ei ''[[On the Origin of Species]]''. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw [[Gregor Mendel]] a'i waith ar [[planhigyn|blanhigion]] a'r hyn rydym yn ei alw'n [[etifeddeg]] a [[genyn]]au.<ref>[http://www.accessexcellence.org/RC/AB/BC/Gregor_Mendel.html Gwefan Saesneg National Health Museum]</ref>

==Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]==
==Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]==
Llinell 13: Llinell 13:
Dyma rai o conglfeini detholiad naturiol:
Dyma rai o conglfeini detholiad naturiol:

#Pe bai pob [[organebau byw|organeb]] yn atgynhyrchu'n llwyddiannus, yna byddai poblogaeth y rhywogaeth hwnnw yn cynyddu tu hwnt i reolaeth<ref>Gweler: The Structure of Evolutionary Theory gan Stephen J Gould, cyhoeddwr: Harvard University Press, 2002, tudalen 1433; isbn = 0674006135</ref>

#Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
#Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
#Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
#Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
Llinell 47: Llinell 47:

<!-- DIM TESTUN DAN Y LLINELL YMA OS GWELWCH YN DDA. CATEGORIAU A RHYNGWICI YN UNIG -->
<!-- DIM TESTUN DAN Y LLINELL YMA OS GWELWCH YN DDA. CATEGORIAU A RHYNGWICI YN UNIG -->

[[Categori:Esblygiad| ]]
[[Categori:Bioleg]]
{{eginyn bioleg}}
{{eginyn bioleg}}

Llinell 57: Llinell 56:
{{Cyswllt erthygl ddethol|zh}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|zh}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|ru}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|ru}}

{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}

[[Categori:Esblygiad| ]]
[[Categori:Bioleg]]

[[af:Evolusie]]
[[af:Evolusie]]

Fersiwn yn ôl 15:55, 1 Chwefror 2013

Tad y syniadaeth am esblygiad: Charles Darwin
Gwaith Haeckel: "Paleontological Tree of Vertebrates (tua 1879)".
Mae esblygiad rhywogaethau dros hanes wedi'i ddisgrifio fel coeden gyda nifer o ganghennau'n tarddu o un bonyn. Dyma yw gwraidd ein syniadaeth heddiw.
1: Mwtadu yn creu amrywiaeth. 2: Mwtadiaid anffafriol yn methu atgenhedlu'n llwyddiannus. 3: Atgenhedlu yn digwydd gan greu mwtadiaeth ffafriol ac anffafriol eto. 4. Mwtadiaid ffafriol yn fwy tebygol o oroesi. 5: ... ac atgenhedlu.

Newidiad dros amser nodweddion etifeddedig mewn poblogaethau yw esblygiad. Esblygiad sydd yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y Ddaear heddiw. Gan fod rhai unigolion yn atgenhedlu yn fwy llwyddianus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddianus, neu i fanteisio'n well o'u amgylchedd—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w amgylcheddion. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.

Mae ein dealltwriaeth heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau Alfred Russel Wallace a Charles Darwin ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd Charles Darwin ei On the Origin of Species. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel a'i waith ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau.[1]

Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy ddetholiad naturiol

Charles Darwin a Gregor Mendel yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am ddetholiad naturiol yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.

Dyma rai o conglfeini detholiad naturiol:

  1. Pe bai pob organeb yn atgynhyrchu'n llwyddiannus, yna byddai poblogaeth y rhywogaeth hwnnw yn cynyddu tu hwnt i reolaeth[2]
  2. Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
  3. Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
  4. Nid yw'r rhan fwyaf o'r epil yn goroesi (2% o bysgod sydd yn goroesi o'r epil (neu'r wyau) sydd yn cael ei gynhyrchu.)
  5. Bydd y rhai sy'n goroesi yn atgenhedlu a phasio eu nodweddion i'r genhedlaeth nesaf.
  6. Felly mae'r nodweddion sy'n galluogi'r unigolyn i oroesi yn cael eu cadw yn y boblogaeth.

Dyma rai o'r ffactorau sy'n penderfynu pa organebau sy'n goroesi:

  1. Ysglyfaethwyr
  2. Afiechyd
  3. Cystadlaeth am fwyd
  4. Cystadlaeth am dir neu (yn enwedig mewn planhigion) am olau ayyb.

Gelwir effaith y ffactorau hyn yn 'Ddetholiad Naturiol'.

Ar y pryd doedd Darwin ddim yn gwybod am gromosomau, ond erbyn heddiw rydym yn gwybod mai cromosomau sydd yn cludo gwybodaeth etifeddol.

Syniadau gwyddonol yn newid

Fel mae gwybodaeth gwyddonol yn newid, oherwydd tystiolaeth neywdd, mae ein syniadau am bethau yn newid. Yn amser Darwin roedd y mwyafrif o bobl yn credu bod y rhywogaethau naturiol sy'n byw ar y ddaear wedi cael eu creu mewn chydig ddyddiau ac eu bod wedi goroesi heb newid ers hynny. Gelwir hyn yn Greadaeth (o'r gair 'creu'). Cafodd Darwin lawer o bobl crefyddol yn gwrthwynebu ei syniadau gwyddonol newydd. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn derbyn mae detholiad naturiol, ynghyd â mecaniaethau esblygiadol eraill, sydd yn gyfrifol am amrywiaeth bywyd.

Tystiolaeth am Esblygiad

Trwy astudio ffosilau mewn creigiau o wahanol oedran (fel y gwnaeth Darwin yng Nghwm Idwal) a'r newidiadau yn eu ffurf dros gyfnod o amser down i wybod mwy am amser a pha bryd y crewyd y gwahanol rywogaethau.

Astudiaeth genetig

Gellir edrych ar y genynau sydd mewn gwahanol rhywogaethau ac wedyn eu cymharu e.e. mae dyn a'r tsimpansî yn rhannu 98% o'u genynau.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Saesneg National Health Museum
  2. Gweler: The Structure of Evolutionary Theory gan Stephen J Gould, cyhoeddwr: Harvard University Press, 2002, tudalen 1433; isbn = 0674006135

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Chwiliwch am Esblygiad
yn Wiciadur.