Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: eu:Grafiti |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid es:Grafiti yn es:Aerosol (pintada) |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[en:Graffiti]] |
[[en:Graffiti]] |
||
[[eo:Grafitio]] |
[[eo:Grafitio]] |
||
[[es: |
[[es:Aerosol (pintada)]] |
||
[[et:Grafiti]] |
[[et:Grafiti]] |
||
[[eu:Grafiti]] |
[[eu:Grafiti]] |
Fersiwn yn ôl 23:46, 31 Ionawr 2013
Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.
Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.