Al-Fâtiha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid ckb:سوورەتی ئەلفاتیحە yn ckb:فاتیحە |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid pl:Al-Fatihah yn pl:Al-Fatiha |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
[[mzn:فاتحه]] |
[[mzn:فاتحه]] |
||
[[nl:Soera De Opening]] |
[[nl:Soera De Opening]] |
||
[[pl:Al- |
[[pl:Al-Fatiha]] |
||
[[pnb:سورت فاتحہ]] |
[[pnb:سورت فاتحہ]] |
||
[[ps:سورة الفاتحة]] |
[[ps:سورة الفاتحة]] |
Fersiwn yn ôl 06:16, 29 Ionawr 2013
Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw sŵra agoriadol y Coran. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Coran" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r sŵras byrraf yn y Coran, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:
- Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
- Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
- Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
- Brenin Dydd y Farn Olaf.
- Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
- Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
- Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.