Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: vep:Veri |
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: cbk-zam:Sangre |
||
Llinell 42: | Llinell 42: | ||
[[bs:Krv]] |
[[bs:Krv]] |
||
[[ca:Sang]] |
[[ca:Sang]] |
||
[[cbk-zam:Sangre]] |
|||
[[cdo:Háik]] |
[[cdo:Háik]] |
||
[[ceb:Dugo]] |
[[ceb:Dugo]] |
Fersiwn yn ôl 16:54, 28 Ionawr 2013
Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys plasma, celloedd coch a chelloedd gwyn. Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff.
Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig rhai yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.
Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).
Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.
Lliw
Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau, mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.