Chwyldro Iemen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid it:Rivoluzione yemenita yn it:Rivolta yemenita |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid sv:Jemenitiska Revolutionen yn sv:Jemenitiska revolutionen |
||
Llinell 50: | Llinell 50: | ||
[[sco:Yemeni revolution]] |
[[sco:Yemeni revolution]] |
||
[[sr:Побуна у Јемену (2011)]] |
[[sr:Побуна у Јемену (2011)]] |
||
[[sv:Jemenitiska |
[[sv:Jemenitiska revolutionen]] |
||
[[ta:2011 யெமனிய எதிர்ப்புப் போராட்டங்கள்]] |
[[ta:2011 யெமனிய எதிர்ப்புப் போராட்டங்கள்]] |
||
[[th:การปฏิวัติเยเมน พ.ศ. 2554–2555]] |
[[th:การปฏิวัติเยเมน พ.ศ. 2554–2555]] |
Fersiwn yn ôl 09:32, 25 Ionawr 2013
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tunisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gannwys Protestiadau yn Yemen, 2011. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Yemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Yemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh.
Daeth 16,000 ynghyd yn Sana'a ar 27 Ionawr.[2] Ar yr ail o Chwefror cyhoeddodd y Prifweinidog na fyddai'n aefyll yn yr etholiad nesaf yn 2013 nac yn trosglwyddo'r awennau i'w fab. Ar 3 Chwefror daeth 20,000 ynghyd i wrthwynebu'r llywodraeth yn Sana'a ac eraill yn Aden.[3]
Ar y 18ed o Ebrill 2011 saethwyd 40 o bobl mewn protest heddychlon a saethwyd llawer a oedd yn cymryd rhan mewn protestiadau wedi hynny. Erbyn y 23 Ebrill roedd tri o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo oherwydd y saethu. Gwelwyd lluniau ar Al Jazeera o filwyr y wlad yn cyhoeddi eu bont yn ochri gyda'r garfan wrth-lywodraeth. Drennydd, ar y 19eg o Ebrill, cyhoeddodd Ali Abdullah Saleh y byddai'n ymddiswyddo o fewn 30 diwrnod ac y byddai'n galw etholiad o fewn 60 diwrnod. Cafwyd cytundeb na fyddai'n cael ei erlyn am gyn-droseddau.
Ymddiswyddiad Saleh
Cynhaliwyd etholiad am arlywyddiaeth y wlad ar 21 Chwefror 2012 ac adroddwyd y pleidleisiodd 65% o'r etholwyr. Enillodd Abd Rabbuh Mansur al-Hadi 99.8% o'r bleidlais. Cymerodd y llw yn senedd y wlad ar 25 Chwefror 2012. Dychwelodd y cyn-Brifweinidog adref i fod yn rhan o'r seremoni hwn.[4] Ymddiswyddodd Saleh gan dderbyn yr arlywyddiaeth newydd. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig ac yn dod a phennod i ben, ar ôl 33 mlynedd fel Arlywydd.[5]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan saeneg Reuters; adalwyd 2011
- ↑ Gwefan Saesneg yr Irish Times; adalwyd 2011
- ↑ Gwefan saesneg y BBC; adalwyd 2011
- ↑ Kasinof, Laura (27 February 2012). "Yemen Swears In New President to the Sound of Applause, and Violence". The New York Times. Cyrchwyd 15 Awst 2012.
- ↑ Gwefan Google; adalwyd 28 Awst 2012