Al-Fâtiha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JYBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ky:Фатиха сүрөсү
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:
[[bs:El-Fatiha]]
[[bs:El-Fatiha]]
[[ce:Сура Схьадоьллург]]
[[ce:Сура Схьадоьллург]]
[[ckb:فاتیحە]]
[[ckb:سوورەتی ئەلفاتیحە]]
[[da:Al-Fatiha]]
[[da:Al-Fatiha]]
[[de:Al-Fātiha]]
[[de:Al-Fātiha]]

Fersiwn yn ôl 11:40, 14 Ionawr 2013

Al-Fâtiha: sŵra agoriadol y Coran

Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw sŵra agoriadol y Coran. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Coran" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r sŵras byrraf yn y Coran, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:

    1. Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
    2. Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
    3. Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
    4. Brenin Dydd y Farn Olaf.
    5. Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
    6. Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
    7. Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.