Cytundeb Waitangi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: be, be-x-old, cs, de, el, eo, es, fi, fr, he, hu, id, it, ja, ko, mi, ms, nl, nn, no, pl, pt, ro, ru, sv, zh
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Hanes Seland Newydd]]
[[Categori:Hanes Seland Newydd]]


[[be:Пагадненне Вайтангі]]
[[be-x-old:Пагадненьне Вайтангі]]
[[cs:Smlouva z Waitangi]]
[[de:Vertrag von Waitangi]]
[[el:Συνθήκη του Γουαϊτάνγκι]]
[[en:Treaty of Waitangi]]
[[en:Treaty of Waitangi]]
[[eo:Traktato de Waitangi]]
[[es:Tratado de Waitangi]]
[[fi:Waitangin sopimus]]
[[fr:Traité de Waitangi]]
[[he:הסכם ואיטנגי]]
[[hu:Waitangi Szerződés]]
[[id:Perjanjian Waitangi]]
[[it:Trattato di Waitangi]]
[[ja:ワイタンギ条約]]
[[ko:와이탕이 조약]]
[[mi:Tiriti o Waitangi]]
[[ms:Perjanjian Waitangi]]
[[nl:Verdrag van Waitangi]]
[[nn:Waitangitraktaten]]
[[no:Waitangitraktaten]]
[[pl:Traktat Waitangi]]
[[pt:Tratado de Waitangi]]
[[ro:Tratatul de la Waitangi]]
[[ru:Договор Вайтанги]]
[[sv:Waitangifördraget]]
[[zh:懷唐伊條約]]

Fersiwn yn ôl 06:23, 12 Ionawr 2013

Arwyddwyd Cytundeb Waitangi (Saesneg:Treaty of Waitangi, Māori: Tiriti o Waitangi) ar 6 Chwefror 1840 gan gynrychiolwyr Coron Prydain a phenaethiaid Māori amrywiol o Ynys y Gogledd, Seland Newydd.

Arweiniodd y Cytuniad at sefydlu swydd Llywodraethwr Prydain dros Seland Newydd, cydnabyddiaeth o berchnogaeth y Māori dros eu tiroedd a’u heidio, ac fe roddwyd i’r Māori hawliau fel deiliaid Prydeinig. Mae fersiynau Saesneg a Māori y Cytundeb yn wahanol yn sylweddol, felly nid oes consensws ynghylch beth yn union y cytunwyd iddynt. O safbwynt Prydain, rhoddodd y Cytundeb sofraniaeth i Brydain dros Seland Newydd a’r hawl i’r Llywodraethwr i lywodraethu'r wlad. Credodd y Māori ar y llaw arall eu bod yn ildio i'r Goron yr hawl i lywodraethu mewn cyfnewid am ddiogelwch, a’u bod yn parhau i fod ag awdurdod i reoli eu materion eu hunain.[1] Ar ôl y llofnodi cychwynnol yn Waitangi, aed â chopïau o'r Cytundeb o gwmpas Seland Newydd a thros y misoedd canlynol fe’i llofnodwyd gan benaethiaid eraill. Roedd cyfanswm o naw copi o'r Cytundeb Waitangi gan gynnwys y gwreiddiol a'i llofnodwyd ar 6 Chwefror 1840.[2] Fe wnaeth tua 530-540 o benaethiaid, o leiaf 13 ohonynt yn fenywod, arwyddo Cytuniad Waitangi.[3][4]

Hyd at y 1970au, ystyrir bod y Cytundeb yn gyffredinol wedi gwasanaethu ei bwrpas yn Seland Newydd y 1840au, ac fe'i hanwybyddwyd gan y llysoedd a senedd fel ei gilydd. Fe’i dehonglwyd yn hanes Seland Newydd fel gweithred hael ar y rhan Coron Prydain, a oedd ar y pryd yn ei anterth.[5] Mae’r Māori wedi edrych tuag at y Cytundeb am ddatrysiadau mewn achosion o gam-drin hawliau, colli tir a thriniaeth anghyfartal gan y wladwriaeth, gyda llwyddiant cymysg. O ddiwedd y 1960au dechreuodd y Māori dynnu sylw at achosion o dorri'r Cytundeb, ac mae hanes diweddar wedi pwysleisio problemau gyda'r cyfieithiad Māori o’r cytundeb.[6] Yn 1975, sefydlwyd Tribiwnlys Waitangi fel comisiwn parhaol gyda’r dasg o ymchwilio i achosion o dorri’'r Cytundeb gan y Goron neu ei gynrychiolwyr ac awgrymu dulliau o wneud iawn am hyn.

Heddiw fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y ddogfen a sefydlodd Seland Newydd fel cenedl. Er hyn, mae'r Cytundeb yn aml yn destun dadlau brwd, a llawer o anghytuno rhwng y Māori a’r rhai o Seland Newydd nad ydynt o dras Māori. Mae llawer o’r Māori yn teimlo nad yw'r Goron yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac wedi cyflwyno tystiolaeth o hyn o flaen y Tribiwnlys. Mae rhai nad ydynt o dras Māori wedi awgrymu bod y Māori yn camddefnyddio'r Cytundeb er mwyn hawlio "breintiau arbennig".[7][8] Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes raid i’r Goron weithredu ar argymhellion y Tribiwnlys, ond serch hynny mewn sawl achos, mae’r Goron wedi derbyn ei bod yn torri'r Cytundeb a'i egwyddorion. Hyd yn hyn mae setliadau wedi cynnwys cannoedd o filiynau o ddoleri o iawndal mewn arian parod ac asedau, yn ogystal ag ymddiheuriadau.

Mae dyddiad y llofnodi bellach yn wyliau cenedlaethol ers 1974, ac fe elwir y diwrnod yn Ddiwrnod Waitangi.

Cyfeiriadau

  1. "Meaning of the Treaty". Waitangi Tribunal. 2011. Cyrchwyd 12 July 2011.
  2. "Treaty of Waitangi – Te Tiriti o Waitangi". Archives New Zealand. Cyrchwyd 10 August 2011.
  3. "Treaty of Waitangi". Waitangi Tribunal. Cyrchwyd 10 August 2011.
  4. C. Orange.The Treaty of Waitangi.Bridget Willians .1987.Appendices P 260
  5. "The Treaty in practice: The Treaty debated". nzhistory.net.nz. Cyrchwyd 10 August 2011.
  6. "Treaty of Waitangi – Meaning". Waitangi Tribunal. Cyrchwyd 10 August 2011.
  7. Dr Donald Brash (26 March 2004). "Orewa Speech -Nationhood". Cyrchwyd 20 March 2011.
  8. Radio Live (1 February 2012). "AUDIO: Laws vs. JT on the Treaty of Waitangi". Cyrchwyd 8 February 2012.