C'mon Midffîld!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau) B Symudwyd y dudalen C'mon Midffild! i C'mon Midffîld! gan Jac-y-do: Orgraff (î) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:19, 10 Ionawr 2013
Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld!. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.
Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffild! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwpp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.
Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3] Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.
Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]
Cymeriadau
- Arthur Picton - John Pierce Jones
- Tecwyn Parri - Bryn Fôn
- Wali Thomas - Mei Jones
- George Huws - Llion Williams
- Sandra Picton/Huws - Sian Wheldon (Cyfres 1-5); Gwenno Hodgkins (Cyfres 6)
- Lydia Thomas - Catrin Dafydd
- Harri - Rhys Richards
- Graham - Mal Lloyd
- Jean Parri - Bethan Gwilym
Penodau
- Yr Italian Job
- Il Lavoro In Italia
- Ty Fy Nhad
- Tibetans V Mouthwelians
- O Mam Bach
- Meibion Bryncoch
- Ffilm Yr Eidal
- Trwy Ddirgel Ffyrdd
- Fe Gei Di Fynd I'r Bol…
- Eira Man, Eira Mawr
- Yr Etholedig Rai
- Cymorth Hawdd Ei Gael
- Yr Alpha A'r Omega
- Wrth Gicio A Brathu
- Henaint Ni Ddaw Ei Hunan
- Elen Fwyn, Elen…
- Mi Af I Briodas Yfory
- Y Cocyn Hitio
- Dechrau'r Diwedd
- Y Maes Chwarae
- Seren Ddisglair
- Lladron y Nos
- Traed Moch
- Y Trip
- Can Di Bennill Fwyn
- Craig o Arian
- Bryn o Briten
- Y Gwir yn Erbyn y Byd
- Gweld Ser
- Rhyfel Cartra
- Match o Ddy' De
- Nadolig Llawen?
Rhaglenni/Ffilmiau Unigol
- C'mon Midffild a Rasbrijam
- Doli Bryncoch
- Midffild - Y Mwfi
Rhyddhau
Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng 2005 [1] a 2007.