Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: tg:Созмони Ҷаҳонии Тиҷорат |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid tl:Organisasyon ng Pandaigdigang Pangangalakal yn tl:Kapisanan ng Pandaigdigang Kalakalan |
||
Llinell 101: | Llinell 101: | ||
[[tg:Созмони Ҷаҳонии Тиҷорат]] |
[[tg:Созмони Ҷаҳонии Тиҷорат]] |
||
[[th:องค์การการค้าโลก]] |
[[th:องค์การการค้าโลก]] |
||
[[tl: |
[[tl:Kapisanan ng Pandaigdigang Kalakalan]] |
||
[[tr:Dünya Ticaret Örgütü]] |
[[tr:Dünya Ticaret Örgütü]] |
||
[[tt:Бөтендөнья сәүдә оешмасы]] |
[[tt:Бөтендөнья сәүдә оешмасы]] |
Fersiwn yn ôl 04:25, 10 Ionawr 2013
Cyfundrefn ryngwladol yw Cyfundrefn Masnach y Byd neu CMB (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb CMB a drafodwyd ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol CMB yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2009 roedd gan y gyfundrefn gyllid o 189 miliwn Ffranc y Swistir a 153 aelod-wladwriaeth: Cabo Verde yw'r aelod diweddaraf.[1] Nid yw Rwsia, Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas Genefa, Y Swistir. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr Pascal Lamy yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai Supachai Panitchpakdi. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall.
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau CMB wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.