Iago fab Sebedeus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bar:Jakobus da Äitere
SassoBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (Robot: Yn newid da:Jakob den Ældre yn da:Jakob den ældre
Llinell 21: Llinell 21:
[[ca:Jaume el Major]]
[[ca:Jaume el Major]]
[[cs:Jakub Větší]]
[[cs:Jakub Větší]]
[[da:Jakob den Ældre]]
[[da:Jakob den ældre]]
[[de:Jakobus der Ältere]]
[[de:Jakobus der Ältere]]
[[el:Απόστολος Ιάκωβος]]
[[el:Απόστολος Ιάκωβος]]

Fersiwn yn ôl 01:34, 10 Ionawr 2013

Darlun o Sant Iago gan Rembrandt.

Un o'r deuddeg Apostol oedd Iago fab Sebedeus neu Sant Iago (bu farw 44). Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Ioan. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.

Yn diweddarach, cofnodir yn Actau'r Apostolion i Herod Agrippa ddienyddio Iago a chleddyf. Yn ôl y traddodiad, aethpwyd a'i weddillion i'w claddu i Santiago de Compostela yn Galicia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Daeth Iago yn nawdd-sant Sbaen, ac ystyrir Santiago de Compostela gan Gatholigion fel trydedd dinas sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'r ddinas wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i bererinion o'r Canol Oesoedd ymlaen.

Eglwys Gadeiriol Sant Iago, Santiago de Compostela.