Rhys ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Louperibot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: fr:Rhys ap Owain
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: sh:Rhys ab Owain
Llinell 24: Llinell 24:
[[it:Rhys ab Owain]]
[[it:Rhys ab Owain]]
[[ru:Рис ап Оуайн]]
[[ru:Рис ап Оуайн]]
[[sh:Rhys ab Owain]]

Fersiwn yn ôl 12:35, 5 Ionawr 2013

Roedd Rhys ab Owain (bu farw 1078) yn frenin Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.

Roedd Rhys yn fab i Owain ab Edwin o linach Hywel Dda. Dilynodd ei frawd Maredudd ar orsedd Deheubarth yn 1072. Yn ôl Brut y Tywysogion ef ac uchelwyr Ystrad Tywi oedd yn gyfrifol am ladd Bleddyn ap Cynfyn, Gwynedd a Powys yn 1075.

Yn 1078 gorchfygwyd ef gan Trahaearn ap Caradog, oedd wedi dilyn Bleddyn ar orsedd Gwynedd, mewn brwydr ger Gwdig. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, lladdwyd Rhys gan frenin Gwent, Caradog ap Gruffydd. Mae croniclydd y Brut yn ystyried ei dynged fel dialedd cyfiawn am ei waith yn lladd Bleddyn ap Cynfyn. Dilynwyd ef fel brenin Deheubarth gan ei gefnder, Rhys ap Tewdwr.

Llyfryddiaeth

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

O'i flaen :
Maredudd ab Owain ab Edwin
Teyrnoedd Deheubarth
Rhys ab Owain
Olynydd :
Rhys ap Tewdwr