Claudius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: mr:क्लॉडिअस
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: bs:Klaudije
Llinell 37: Llinell 37:
[[bpy:কলাউডিও]]
[[bpy:কলাউডিও]]
[[br:Glaoda Iañ]]
[[br:Glaoda Iañ]]
[[bs:Klaudije]]
[[ca:Claudi]]
[[ca:Claudi]]
[[cs:Claudius]]
[[cs:Claudius]]

Fersiwn yn ôl 20:30, 28 Rhagfyr 2012

Yr ymerawdwr Claudius

Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus (1 Awst 10 CC - 13 Hydref 54) (Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth. Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.

Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.

Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal a choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.

Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.

O'i flaen :
Caligula
Ymerodron Rhufain
Claudius
Olynydd :
Nero
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol