Canu gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
delwedd gweithdy |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid ms:Lagu Kedaerahan yn ms:Lagu kedaerahan |
||
Llinell 64: | Llinell 64: | ||
[[mk:Народна музика]] |
[[mk:Народна музика]] |
||
[[mr:लोकसंगीत]] |
[[mr:लोकसंगीत]] |
||
[[ms:Lagu |
[[ms:Lagu kedaerahan]] |
||
[[nah:Folk]] |
[[nah:Folk]] |
||
[[nl:Folk]] |
[[nl:Folk]] |
Fersiwn yn ôl 20:10, 26 Rhagfyr 2012
Defnyddir y term canu gwerin fel arfer i olygu caneuon a genir gan y werin, caneuon sy'n perthyn i'r gymuned gyfan ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac sy'n cael eu trosglwyddo ar lafar yn hytrach nag ar bapur. Fel arfer does neb yn gwybod pwy yw awdur/cyfansoddwr cân werin. Mae canu gwerin yn rhan bwysig o ddiwylliant gwerin sawl gwlad, yn cynnwys Cymru. Gellir dosrannu canu gwerin i Ganu gwerin traddodiadol ac i Ganu gwerin modern. Sylwer hefyd fod gwahaniaeth rhwng canu gwerin a chanu gwlad.
Cynhelir sawl gŵyl gerddorol sy'n cynnwys canu gwerin. Un o'r enwocaf yw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, sy'n denu perfformwyr o sawl rhan o'r byd.
Canu gwerin Cymraeg
- Prif: Canu gwerin Cymraeg
Mae Meredydd Evans, Elfed Lewys, Arfon Gwilym a Lynda Healey yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae Ar Lôg yn grŵp gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: Clochan, Cilmeri, Plethyn, 4 yn y Bâr, Bwchadanas a'r Hwntws.
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan Roy Saer o Sain Ffagan ers 1963 a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.[1]
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.[2]
Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [1]