Lombok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: be:Востраў Ламбок
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ka:ლომბოკი
Llinell 37: Llinell 37:
[[ja:ロンボク島]]
[[ja:ロンボク島]]
[[jv:Lombok]]
[[jv:Lombok]]
[[ka:ლომბოკი]]
[[ko:롬복 섬]]
[[ko:롬복 섬]]
[[lt:Lombokas]]
[[lt:Lombokas]]

Fersiwn yn ôl 09:54, 26 Rhagfyr 2012

Ynys Lombok o'r gofod.

Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.

Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.

Gunung Rinjani o Gili Air

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol