Atmosffer y Ddaear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: my:လေ
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 69: Llinell 69:
[[ja:地球の大気]]
[[ja:地球の大気]]
[[jv:Atmosfer]]
[[jv:Atmosfer]]
[[ka:დედამიწის ატმოსფერო]]
[[ka:ატმოსფერო (დედამიწა)]]
[[kg:Mwela]]
[[kg:Mwela]]
[[kk:Жер атмосферасы]]
[[kk:Жер атмосферасы]]

Fersiwn yn ôl 21:55, 25 Rhagfyr 2012

Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Yn uchel yn y thermosffer (335 km).
Haenau'r atmosffer

Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffêr") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo.

Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nês at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15 km isaf.

Tymheredd ac haenau'r atmosffer

Isod gweler rhestr o haenau'r atmosffer o wyneb y ddaear i fynny.

Troposffer

Cyfyngir tywydd y ddaear i'r haen gymharol denau sy'n ymestyn tua 8 km uwchben y pegynnau a thua 15 km uwch y gyhydedd. Mae'n cynnwys 85% o'r màs atmosfferig a'r anwedd dŵr i gyd bron. Mae tymheredd yr aer yn gostwng 1°C ymhob 165 m o gynydd mewn uchder.

Stratosffer

Haen yr awyrgylch sy'n cynnwys 90% o'r osôn yw'r stratosffer. Mae'r haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau uwchfioled gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywia'r tymheredd o tua -75°C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10°C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin sy'n gwanhanu rhan yma'r atmosffer oddi wrth y Troposffer.

Mesosffer

Haen uwchben y stratoffin ydy'r mesosffer. Mae'r tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130°C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf (nid gaeaf) oherwydd cylchrediad yr awyr.

Thermosffer

Mae'r thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae ymbelydredd uwch fioled yn achosi ïoneiddiad yma. Mae'r thermosffer yn dechrau tua 90 km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600 km.

Ecsosffer

Mae'r ecsosffer yn ymdoddi i'r cyfrwng rhyngblanedol ac mae'n dechrau tua 600 km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o ocsigen atomig i fyny at 600 km a chyfran gyfartal o hydrogen ac heliwm. Mae yna fwy o hydrogen nag o heliwm y tu hwnt i 2400 km.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.