Tingoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: be:Звычайная рудахвостка
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vi:Phoenicurus phoenicurus
Llinell 66: Llinell 66:
[[tr:Bayağı kızılkuyruk]]
[[tr:Bayağı kızılkuyruk]]
[[udm:Гордбыж]]
[[udm:Гордбыж]]
[[vi:Phoenicurus phoenicurus]]

Fersiwn yn ôl 14:20, 21 Rhagfyr 2012

Tingoch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Phoenicurus
Rhywogaeth: P. phoenicurus
Enw deuenwol
Phoenicurus phoenicurus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Tingoch (Phoenicurus phoenicurus) yn aderyn bychan oedd yn arfer cael ei ddosbarthu fel aelod o deulu'r Turdidae on sy'n awr yn cael ei ystyried yn aelod o deulu'r Muscicapidae, y gwybedogion.

Mae'n aderyn eithaf cyffredin mewn rhannau o Ewrop yn yr haf. Mae'n aderyn mudol, yn gaeafu yng Ngogledd Affrica.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd yn y tymor nythu. Mae'n aderyn lliwgar iawn gyda'r pen a'r cefn yn llwyd tywyll a'r gynffon a'r ochrau yn liw oren-frown. mae'r talcen yn wyn a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad. Nid yw'r iâr mor lliwgar gyda'r rhan fwyaf o'r plu yn frown, ond mae hithau hefyd yn dangos y lliw goch ar y gynffon a roes ei enw i'r aderyn. Mae tua 14 cm o hyd, tua'r un faint a Robin Goch.

Mae'r ceiliog yn cyrraedd i nythu yn Ebrill, ychydig o flaen yr iar. Ceir yr aderyn yma mewn coedydd, lle mae'n nythu mewn twll mewn coeden neu wal gerrig. Mae hefyd yn barod i ddefnyddio blychau nythu, fel yn y llun. Bydd yr iâr yn dodwy pump neu chwech o wyau glas golau.

Ystyrir y Tingoch yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.