Tylluan glustiog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Chobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.6) (robot yn ychwanegu: ko:쇠부엉이
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vi:Asio flammeus
Llinell 77: Llinell 77:
[[tr:Kır baykuşu]]
[[tr:Kır baykuşu]]
[[uk:Сова болотяна]]
[[uk:Сова болотяна]]
[[vi:Asio flammeus]]
[[wa:Duk di bwès]]
[[wa:Duk di bwès]]
[[zh:短耳鸮]]
[[zh:短耳鸮]]

Fersiwn yn ôl 06:44, 21 Rhagfyr 2012

Tylluan Glustiog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Strigidae
Genws: Asio
Rhywogaeth: A. flammeus
Enw deuenwol
Asio flammeus
(Pontoppidan, 1763)

Mae'r Dylluan Glustiog (Asio flammeus) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o dylluanod. Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia, Gogledd America a De America.

Mae'r Dylluan Glustiog yn aderyn mudol i raddau, yn symud tua'r de yn y gaeaf o'r rhannau lle mae'r gaeafau'n oer. Mae hefyd yn bsarod i grwydro os yw bewyd yn brin.

Adeiledir y nyth ar lawr ar dir agored, rhostir fel rheol. Ma'n dodwy 3 neu 4 o wyau fel rheol, ond os oes digon o fwyd ar gael gall ddodwy hyd at ddwsin. Mae'n hela mamaliaid bychain, yn enwedig gwahanol fathau o lygod, dros dir agored, ond gall fwyta adar hefyd. Gellir gweld y dylluan yma yn hela yn ystod y dydd, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r tylluanod.

Mae'r Dylluan Glustiog rhwng 34 a 42 cm o hyd a 90-105 cm ar draws yr adenydd; mae'r adenydd yn edrych yn hir o'u cymharu a maint yr aderyn. Mae'r plu yn frown gan mwyaf, ac yn oleuach ar y bol. Un ffordd o wahaniaethu rhwng y dylluan yma a't Dylluan Gorniog, sy'n medru edrych yn debyg iawn, yw fod gan y Dylluan Glustiog lygaid melyn, tra mae llygaid y Dylluan Gorniog yn oren. Fel rheol nid yw'r "clustiau", sy'n blu hirach o gwmpas y clustiau mewn gwirionedd, yn amlwg iawn, ond maent yn cael eu codi os oes ar y dylluan eisiau gwrando ar rywbeth.

Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan o'r dylluan yma yn nythu, yn yr ucheldiroedd fel rheol. Yn y gaeaf mae'r rhain yn dod i lawr i dir isel, yn aml gerllaw'r môr, ac mae rhai adar o wledydd eraill yn ymuno a hwy.