Hong Cong: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ky:Гонконг
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 179: Llinell 179:
[[oc:Hong Kong]]
[[oc:Hong Kong]]
[[os:Гонконг]]
[[os:Гонконг]]
[[pa:ਹਾਂਗ ਕਾਂਗ]]
[[pa:ਹਾਂਗਕਾਂਗ]]
[[pam:Hong Kong]]
[[pam:Hong Kong]]
[[pl:Hongkong]]
[[pl:Hongkong]]

Fersiwn yn ôl 08:49, 15 Rhagfyr 2012

香港特別行政區
Hong Kong Special Administrative Region

Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong
Baner Hong Kong Arfbais Hong Kong
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: March of the Volunteers
Lleoliad Hong Kong
Lleoliad Hong Kong
Prifddinas dim
(Victoria yn hanesyddol.)
Ardal fwyaf
(o ran poblogaeth)
Sha Tin
Iaith / Ieithoedd swyddogol Tsieinëeg, Saesneg
Llywodraeth
- Prif Weithredwr CY Leung
Sefydliad
- Meddiannwyd gan y Deyrnas Unedig
- Cytundeb Nanking
- Meddiannwyd gan Japan
- Trosglwyddiad sofraniaeth

25 Ionawr 1841

29 Awst 1842
25 Rhagfyr 1941 - 15 Awst 1945
1 Gorffennaf 1997
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,104 km² (-)
4.6
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
6,864,000 (100fed)
6,748,389
6,217/km² (3ydd)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$254.2 biliwn (40fed)
$38,127 (6ed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.927 (22ain) – uchel
Arian cyfred Doler Hong Kong (HKD)
Cylchfa amser
 - Haf
HKT (UTC+8)
Côd ISO y wlad .hk
Côd ffôn +852 (01 o Macau)

Un o ddau ranbarth gweinyddol arbennig Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Hong Kong (Tsieineeg: 香港); y llall yw Macau. Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Tsieina wedi'i hamgylchynu gan Ddelta'r Afon Perl a Môr De Tsieina,[1] ac mae'n enwog am ei nenlinell eang a'i harbwr naturiol dwfn. Gyda tirfas o 1,104 km2 (426 mi sgw) a phoblogaeth o saith miliwn o bobl, Hong Kong yw un o'r ardaloedd mwyaf drwchus ei phoblogaeth yn y byd.[2] Mae 95 y cant o boblogaeth Hong Kong yn Tsieineaidd a 5 y cant o grwpiau ethnig eraill.[3] Daw'r mwyafrif Han yn bennaf o ddinasoedd Guangzhou a Taishan yn y dalaith gyfagos, Guangdong.[4]

Daeth Hong Kong yn drefedigaeth gan yr Ymerodraeth Brydeinig wedi'r Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42). Yn wreiddiol Ynys Hong Kong yn unig oedd dan reolaeth y Prydeinwyr, ond ehangodd ffiniau'r drefedigaeth i gynnwys Gorynys Kowloon ym 1860 a'r Tiriogaethau Newydd ym 1898. Cafodd ei feddiannu gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r rhyfel atfeddiannodd Brydain Hong Kong hyd drosglwyddo sofraniaeth i Tsieina ym 1997.[5][6] Yn ystod ei chyfnod trefedigaethol mabwysiadodd llywodraeth Hong Kong bolisi o ymatal rhag ymyrryd yn yr economi dan yr ethos o anymyrraeth bositif.[7] Cafodd y cyfnod hwn ddylanwad mawr ar ddiwylliant Hong Kong, a elwir yn aml yn "cwrdd rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin",[8] ac roedd y system addysg yn arfer dilyn system Lloegr[9] nes iddi gael ei diwygio yn 2009.[10]

Dan yr egwyddor "un wlad, dwy system", mae gan Hong Kong system wleidyddol wahanol i dir mawr Tsieina.[11] Gweithreda barnwriaeth annibynnol Hong Kong dan fframwaith y gyfraith gyffredin.[12][13] Llywodraethir y system wleidyddol gan Gyfraith Sylfaenol Hong Kong, dogfen gyfansoddiadol sy'n mynnu i Hong Kong gael "gradd uchel o hunanlywodraeth" mewn pob mater ac eithrio cysylltiadau tramor ac amddiffyniad milwrol.[14][15] Er bod ei system amlbleidiol yn tyfu, mae etholyddiaeth fechan yn rheoli hanner y Cyngor Deddfwriaethol. Hynny yw, dewisir Prif Weithredwr Hong Kong, sef pennaeth y llywodraeth, gan Bwyllgor Etholiadol o 400 i 1,200 o aelodau, a bydd y system hon yn gweithredu am y 20 mlynedd gyntaf dan sofraniaeth Tsieina.[16][17][18][19]

Mae Hong Kong yn un o brif ganolfannau ariannol y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef doler Hong Kong, yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.[20]

Harbwr Victoria, Ynys Hong Kong.

Cyfeiriadau

  1. "Geography and Climate, Hong Kong" (PDF). Census and Statistics Department, Hong Kong Government. Cyrchwyd 10 January 2007.
  2. Ash, Russell (2006). The Top 10 of Everything 2007. Hamlyn. t. 78. ISBN 0-600-61532-4.
  3. "Population by Ethnicity, 2001 and 2006". Census and Statistics Department, Hong Kong Government. Cyrchwyd 4 October 2010.
  4. Fan Shuh Ching (1974). "The Population of Hong Kong". World Population Year (Committee for International Coordination of National Research in Demography): 18–20. http://www.cicred.org/Eng/Publications/pdf/c-c21.pdf. Adalwyd 25 August 2010.
  5. "Joint Declaration of the Government of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and the Government of the People's Republic of China on the Question of Hong Kong". Constitutional and Mainland Affairs Bureau, Hong Kong Government. 19 December 1984. Cyrchwyd 4 October 2010. The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong Kong area (including Hong Kong Island, Kowloon and the New Territories, hereinafter referred to as Hong Kong) is the common aspiration of the entire Chinese people, and that it has decided to resume the exercise of sovereignty over Hong Kong with effect from 1 July 1997.
  6. "On This Day: 1997: Hong Kong handed over to Chinese control". BBC News. 1 July 1997. Cyrchwyd 9 September 2008.
  7. "The World's Most Competitive Financial Centers". CNBC. Cyrchwyd 30 October 2009.
  8. "24 hours in Hong Kong: Urban thrills where East meets West". CNN. 8 March 2009. Cyrchwyd 27 May 2009.
  9. Chan, Shun-hing; Leung, Beatrice (2003). Changing Church and State Relations in Hong Kong, 1950–2000. Hong Kong University Press. t. 24. ISBN 962-209-612-3.
  10. "Programme Highlights". Hong Kong Government. Cyrchwyd 20 October 2010.
  11. So, Dudley L.; Lin, Nan; Poston (2001). The Chinese Triangle of Mainland China, Taiwan and Hong Kong. Greenwood Publishing. tt. 13–29. ISBN 0-313-30869-1.
  12. "Basic Law, Chapter IV, Section 4". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  13. Russell, Peter H.; O'Brien, David M. (2001). Judicial Independence in the Age of Democracy: Critical Perspectives from around the World. University of Virginia Press. t. 306. ISBN 978-0-8139-2016-0.
  14. "Basic Law, Chapter II". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  15. Ghai, Yash P. (2000). Autonomy and Ethnicity: Negotiating Competing Claims in Multi-ethnic States. Cambridge University Press. tt. 92–97. ISBN 978-0-521-78642-3.
  16. "Decision of the National People's Congress on the Method for the Formation of the First Government and the First Legislative Council of the Hong Kong Special Administrative Region". Cyrchwyd 21 February 2012.
  17. "Basic Law, Chapter IV, Section 1". Basic Law Promotion Steering Committee. Cyrchwyd 10 November 2009.
  18. "Amendment to Annex I to the Basic Law of the Hong Kong Special Administrative Region of the People's Republic of China Concerning the Method for the Selection of the Chief Executive of the Hong Kong Special Administrative Region" (PDF).
  19. Rioni, S. G. (2002). Hong Kong in Focus: Political and Economic Issues. Nova Publishers. tt. 9–10. ISBN 978-1-59033-237-5.
  20. "Triennial Central Bank Survey: Report on global foreign exchange market activity in 2010". Monetary and Economic Department (Bank for International Settlements): 12. December 2010. http://www.bis.org/publ/rpfxf10t.pdf. Adalwyd 15 October 2011.
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol