Belisarius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: 300px|right|thumb|Belisario, por [[Jacques-Louis David (1781)]] '''Flavius Belisarius''', Groeg ''Βελισάριος'', (505-565),... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:David_-_Belisarius.jpg|300px|right|thumb| |
[[Image:David_-_Belisarius.jpg|300px|right|thumb|Belisarius, gan [[Jacques-Louis David]] ([[1781]])]] |
||
'''Flavius Belisarius''', [[Groeg]] ''Βελισάριος'', ([[505]]-[[565]]), oedd cadfridog enwocaf yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Dan yr ymerawdwr [[Justinianus I]], bu'n gyfrifol am adfenniannu rhan helaeth o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, tiriogaethau oedd wedi eu colli am dros ganrif. |

Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Justinianus, ef yn gadfridog ar y fyddin yn y dwyrain, i wynebu ymosodiadau gan [[Ymerodraeth Persia]]. Gorchfygodd y Persiaid ym Mrwydr Dara yn [[530]] ac ym Mrwydr Callinicum ar [[Afon Ewffrates]] yn [[531]]. Yn [[532]] ef oedd swyddog uchaf y fuyddin yng [[Caergystennin|Nghaergystennin]] pan fu terfysg [[Nika]]yn y ddinas; llwyddodd Belisarius i roi diwedd ar y gwrthryfel, gyda tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd. |

[[Image:Justinien 527-565.svg|thumb|300px| |
[[Image:Justinien 527-565.svg|thumb|300px|Tŵf tiriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd rhwng dechrau teyrnasiad Justinianus I (coch, 527) a'i farwolaeth (oren, 565). Belisarius oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.]] |
||
Penodwyd Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd y [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enilldd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]]. |

Fersiwn yn ôl 06:41, 16 Ebrill 2007
Flavius Belisarius, Groeg Βελισάριος, (505-565), oedd cadfridog enwocaf yr Ymerodraeth Fysantaidd. Dan yr ymerawdwr Justinianus I, bu'n gyfrifol am adfenniannu rhan helaeth o'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, tiriogaethau oedd wedi eu colli am dros ganrif.
Credir i Belisarius gael ei eni yn ninas Germane neu Germania, heddiw Sapareva Banya yn ne-orllewin Bwlgaria. Ymunodd a'r fyddin yn ieuanc, a daeth yn aelod o warchodlu'r ymerawdwr Justinus I. Wedi marwolaeth Justinus, penododd yr ymerawdwr newydd, Justinianus, ef yn gadfridog ar y fyddin yn y dwyrain, i wynebu ymosodiadau gan Ymerodraeth Persia. Gorchfygodd y Persiaid ym Mrwydr Dara yn 530 ac ym Mrwydr Callinicum ar Afon Ewffrates yn 531. Yn 532 ef oedd swyddog uchaf y fuyddin yng Nghaergystennin pan fu terfysg Nikayn y ddinas; llwyddodd Belisarius i roi diwedd ar y gwrthryfel, gyda tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd.
Penodwyd Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yng Ngogledd Affrica rhwng 533 a 534. Ym Mrwydr Ad Decimum (13 Medi 533) gerllaw Carthago, gorchfygodd y Gelimer, brenin y Fandaliaid. Enilldd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau 534.
Yn 535 gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i deisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Cipiodd ddinas Rhufain yn 536, yna synudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum (Milan heddiw) yna yn 540 Ravenna, prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymeryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn Syria 541 -542).
Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn 544, lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd Totila wedi adfenniannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda Narses yn cymeryd ei le.
Bu farw Belisarius yn 565. Yn y Canol Oesoedd, dywedid fod Justinianus wedi gorchymyn dallu Belisarius, ac iddo ddiweddu ei oes fel cardotyn dall. Nid yw'r rhan fwyaf o haneswyr modern yn credu fod yr hanes yma'n wir.