Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: sh:Tenzin Gjatso
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: oc:Tenzin Gyatso
Llinell 79: Llinell 79:
[[nn:Tenzin Gyatso]]
[[nn:Tenzin Gyatso]]
[[no:Tenzin Gyatso]]
[[no:Tenzin Gyatso]]
[[oc:Tenzin Gyatso]]
[[pl:Tenzin Gjaco]]
[[pl:Tenzin Gjaco]]
[[pnb:دلائی لاما]]
[[pnb:دلائی لاما]]

Fersiwn yn ôl 22:09, 10 Rhagfyr 2012

Jetsun Jamphel Ngawang Lobsang Yeshe Tenzin Gyatso (enw genedigol Llhamo Döndrub; Tibeteg: ལྷ་མོ་དོན་འགྲུབ་ Lha-mo Don-'grub) (ganed 6 Gorffennaf 1935 yn Qinghai, Tibet), yw'r 14eg Dalai Lama, gan olynu Thubten Gyatso. Mae'r Dalai Lama yn arweinydd ysbrydol uchel ei barch gan y Tibetiaid sydd â dylanwad mawr dros yr Ysgol Gelug, cangen o Bwdhiaeth Tibet. Mae'n bennaeth llywodraeth alltud Tibet yn Dharamsala, India. Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 1989. Ef yw'r mynach Bwdhaidd mwyaf adnabyddus yn y byd. Fodd bynnag, mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl China, sy'n llywodraethu Tibet, yn gwrthod ei hawl i gynrychioli pobl y wlad honno.

Ganed Tenzin Gyatso y pumed o 16 o blant mewn teulu o ffermwyr ym mhentref Taktser, yn nhalaith Qinghai, lle siaradai y dafodiaith Tibeteg Amdo fel ei iaith gyntaf. Cafodd ei gyhoeddi yn tulku (ailenedigaeth) y 13eg Dalai Lama dwy flynedd ar ôl ei eni yn 1935. Ar 17 Tachwedd 1950, yn bymtheg oed, cafodd ei orseddu fel Dalai Lama Tibet, gan ddod felly yn arweinydd gwleidyddol a chrefyddol pwysicaf y wlad honno. Digwyddodd hynny cwta un mis yn unig ar ôl i Byddin Rhyddhad y Bobl (y PLA) ddechrau goresgyn Tibet.

Ar ôl arwyddo, dan bwysau milwrol, Cytundeb 17 Pwynt 1951, ffodd o Dibet i India ar ôl methiant gwrthryfel Tibetaidd 1959. Yn India bu ganddo ran flaenllaw mewn sefdydlu Gweinyddiaeth Ganolog Tibet fel llywodraeth alltud a cheisio diogelu diwylliant Tibet ac addysg Dibeteg i'r miloedd o Dibetiaid a ffoes i India.

Mewn alltudiaeth, mae'r Dalai Lama wedi teithio'n eang yn y byd Gorllewinol - y Dalai Lamai cyntaf i wneud hynny - ac wedi cysegru ei fywyd i hyrwyddo achos cenedlaethol Tibet ac ymledu dealltwriaeth o Fwdhaeth. Mae'n siaradwr cyhoeddus penigamp. Yn ei ddysgeidiaeth mae'n pwysleisio cydberthynas pobl y byd, cyfrifoldeb pobl i wella'r byd sydd ohoni, moesoldeb seciwlar, a chytgord crefyddol.

Dolenni allanol

Gweler hefyd


Rhagflaenydd:
Thubten Gyatso
Dalai Lama
1935heddiw
Olynydd:
dal i deyrnasu
Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol