Jin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
geirdarddiad
B s
Llinell 6: Llinell 6:
[[Gordon's]] yw'r jin sych Llundeinig mwyaf poblogaidd yn y byd. Fe'i gynhyrchir ym Mhrydain ers 1769, ac mae gan y cwmni [[Gwarant Frenhinol|Warant Frenhinol]]. Ymysg y brandiau eraill o jin yw [[Bombay Sapphire]], [[Tanqueray]], [[Beefeater (jin)|Beefeater]], a [[Hendrick's]]. Distyllir [[Brecon Gin]] ym [[Penderyn|Mhenderyn]].
[[Gordon's]] yw'r jin sych Llundeinig mwyaf poblogaidd yn y byd. Fe'i gynhyrchir ym Mhrydain ers 1769, ac mae gan y cwmni [[Gwarant Frenhinol|Warant Frenhinol]]. Ymysg y brandiau eraill o jin yw [[Bombay Sapphire]], [[Tanqueray]], [[Beefeater (jin)|Beefeater]], a [[Hendrick's]]. Distyllir [[Brecon Gin]] ym [[Penderyn|Mhenderyn]].


Mae jin yn gynhwysyn craidd i fwy o [[coctel|goctels]] nag unrhyw gwirod arall.<ref>Halley, Ned. ''The Wordsworth Ultimate Cocktail Book'' (Ware, Wordsworth, 1998), t. 74.</ref> Ymysg y coctels poblogaidd sy'n cynnwys jin yw'r Tom Collins (gin, [[sudd lemwn]], [[siwgr]], a [[dŵr soda]]), y Singapore Sling (jin, [[Bénédictine]], gwirodlyn ceirios Heering, [[sudd pînafal]], [[Cointreau]], a [[grenadin]]), a'r jin a thonig (jin a [[dŵr tonig]]).
Mae jin yn gynhwysyn craidd i fwy o [[coctel|goctels]] nag unrhyw gwirod arall.<ref>Halley, Ned. ''The Wordsworth Ultimate Cocktail Book'' (Ware, Wordsworth, 1998), t. 74.</ref> Ymysg y coctels poblogaidd sy'n cynnwys jin yw'r Tom Collins (jin, [[sudd lemwn]], [[siwgr]], a [[dŵr soda]]), y Singapore Sling (jin, [[Bénédictine]], gwirodlyn ceirios Heering, [[sudd pînafal]], [[Cointreau]], a [[grenadin]]), a'r jin a thonig (jin a [[dŵr tonig]]).


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:14, 9 Rhagfyr 2012

Detholiad o jin ar werth mewn siop wirodydd yn Decatur, Georgia, UDA.

Gwirod sydd ag aeron meryw fel prif darddiad ei flas yw jin neu wirod meryw.[1] Gellir distyllu jin o unrhyw grawn, taten neu fetysen, ond iddo gael blas aeron meryw. Gan amlaf caiff ei ddistyllu mwy nag unwaith.

Gwneir jin yn gyntaf yn yr Iseldiroedd yn yr 17eg ganrif, a chywasgiad o'r gair Iseldireg genever (merywen) yw "jin".[2] Daeth yn boblogaidd iawn ym Mhrydain, yn enwedig Llundain, mewn cyfnod a elwir yn y Gin Craze.[3] Gelwir jin sych sydd ag ABV o tua 40% yn jin sych Llundeinig. Cafodd y rhai gwreiddiol eu cynhyrchu yn Llundain, ond heddiw gellir eu distyllu yn unrhyw le. Gellir hefyd trwytho jin ag eirin surion bach a siwgr i wneud y gwirodlyn a elwir yn jin eirin (Saesneg: sloe gin).

Gordon's yw'r jin sych Llundeinig mwyaf poblogaidd yn y byd. Fe'i gynhyrchir ym Mhrydain ers 1769, ac mae gan y cwmni Warant Frenhinol. Ymysg y brandiau eraill o jin yw Bombay Sapphire, Tanqueray, Beefeater, a Hendrick's. Distyllir Brecon Gin ym Mhenderyn.

Mae jin yn gynhwysyn craidd i fwy o goctels nag unrhyw gwirod arall.[4] Ymysg y coctels poblogaidd sy'n cynnwys jin yw'r Tom Collins (jin, sudd lemwn, siwgr, a dŵr soda), y Singapore Sling (jin, Bénédictine, gwirodlyn ceirios Heering, sudd pînafal, Cointreau, a grenadin), a'r jin a thonig (jin a dŵr tonig).

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, t. 604.
  2. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 557.
  3. Dillon, Patrick. The Much-lamented Death of Madam Geneva (Llundain, Headline Review, 2002).
  4. Halley, Ned. The Wordsworth Ultimate Cocktail Book (Ware, Wordsworth, 1998), t. 74.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.