Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: mzn:کویمپر |
JYBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ar:كامبار |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[af:Quimper]] |
[[af:Quimper]] |
||
[[ar:كامبار]] |
|||
[[bg:Кемпер]] |
[[bg:Кемпер]] |
||
[[br:Kemper]] |
[[br:Kemper]] |
Fersiwn yn ôl 02:12, 9 Rhagfyr 2012
Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afon) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae ysgolion Diwan yn y dref.
Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.
-
Siop cerdd a llyfrau Ar Bed Keltiek
-
Siop Keltia Musique
Pobl o Kemper
- Dan Ar Braz, cerddor
- Nolwenn Korbell, cantores