Jørgen Engebretsen Moe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3rc2) (robot yn ychwanegu: se:Jørgen Moe |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
[[Delwedd:Norske_folke_og_huldre-eventyr.jpg|200px|bawd|de|Clawr argraffiad 1878 o ''Norske folke og huldre-eventyr'']] |
[[Delwedd:Norske_folke_og_huldre-eventyr.jpg|200px|bawd|de|Clawr argraffiad 1878 o ''Norske folke og huldre-eventyr'']] |
||
Roedd '''Jørgen Engebretsen Moe''' ([[1813]] - [[1882]]) yn arbenigwr [[llên gwerin]] a [[bardd]] o [[Norwy]]. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]]. Bu'n esgob [[Christiansand]] o [[1875]] hyd [[1881]]. |
Roedd '''Jørgen Engebretsen Moe''' ([[22 Ebrill]] [[1813]] - [[27 Mawrth]] [[1882]]) yn arbenigwr [[llên gwerin]] a [[bardd]] o [[Norwy]]. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]]. Bu'n esgob [[Christiansand]] o [[1875]] hyd [[1881]]. |
||
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, [[Ringerike]]. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd. |
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, [[Ringerike]]. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd. |
Fersiwn yn ôl 17:46, 7 Rhagfyr 2012
Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 1813 - 27 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.
Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).
Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.
Llyfryddiaeth
Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:
- Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)
Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,
- Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)