Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "C'mon Midffîld!"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 4 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Dadwneud y golygiad 1335549 gan 194.82.172.24 (Sgwrs | cyfraniadau))
B
Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd '''''C'mon Midffîld!'''''. Cynhyrchwyd y rhaglen gan [[Ffilmiau'r Nant]] a ddarlledwyd gyntaf ar yr [[18 Tachwedd]] [[1988]] ar [[S4C]].<ref name="archifsain"> [http://sgrinasain.llgc.org.uk/newyddion_030.htm ''C'Mon Midffild? This is a friend''] [[Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru]]</ref> Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar [[BBC Radio Cymru]], a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd [[Alun Ffred Jones]] a gyd-ysgrifennodd y gyfres â [[Mei Jones]], a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd ''Wali Thomas''.
 
Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffild! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel ''[[Only Fools and Horses]]'' gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: ''C'mon Midffîld a Rasbrijam''. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwpp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Llywio