Meillionen goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dexbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:شبدر قرمز |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
== Rhinweddau meddygol == |
== Rhinweddau meddygol == |
||
Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te |
Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te iachusol sy'n dda at [[diffyg traul|ddiffyg traul]].<ref>Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.</ref> Fe'i defnyddir hefyd i wella poenau'r [[misglwyf]] ac [[osteoporosis]].<ref>[http://www.peacehealth.org/kbase/cam/hn-2153008.htm Gwefan Saesneg 'Health Wiser']</ref> Dywed eraill ei fod yn wych am [[codi fflem|godi fflem]] pan fo'r claf yn dioddef o [[peswch|beswch cas]] a hefyd i wella [[cengroen]] (''psoriasis'') ac [[ecsema]] .<ref>Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.</ref> |
||
Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis [[genistin]] yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i [[estrogen]] ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r [[darfyddiad|ddarfyddiad]] (''menopaus'') a chryfhau'r [[calon|galon]].<ref>Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.</ref><ref>[http://www.herbwisdom.com/herb-red-clover.html Gwefan Saesneg Herb Wisdom]</ref> |
Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis [[genistin]] yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i [[estrogen]] ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r [[darfyddiad|ddarfyddiad]] (''menopaus'') a chryfhau'r [[calon|galon]].<ref>Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.</ref><ref>[http://www.herbwisdom.com/herb-red-clover.html Gwefan Saesneg Herb Wisdom]</ref> |
Fersiwn yn ôl 05:44, 5 Rhagfyr 2012
Meillionen goch | |
---|---|
Y meillionen goch yn agos | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Is-deulu: | Faboideae |
Genws: | Trifolium |
Rhywogaeth: | T. pratense |
Enw deuenwol | |
Trifolium pratense L. |
Planhigyn blodeuol bychan ydy'r meillionen goch (Lladin: Trifolium pratense; Saesneg: Red clover) a cheir tua 300 gwahanol fath yn nheulu'r meillion. O gael llonydd, gall dyfu i uchder o 80cm ond mae'r maint yn dibynnu ar ansawdd y pridd. Mae'r dail rhwng 15-30 mm o hyd ac 8-15mm o led, yn wyrdd gyda siap lleuad ar hanner allanol y ddeilen. Mae'r deilgoesyn (petiol) yn 1-4cm o hyd. Pinc tywyll yw lliw'r blodyn pan mae'n ymddangos, 12-15mm o hyd.
Caiff y planhigyn ei ddefnyddio, yn draddodiadol, at nifer o anhwylderau oherwydd ei fod yn cynnwys y canlynol: calsiwm, cromiwm, magnesiwm, niacin, ffosfforws, potasiwm, thiamin a Fitamin C. Dyma'r planhigyn sy'n cynnwys fwyaf o isofflafonau o holl blanhigion y byd; (cemegolyn yw hwn sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n gweithredu fel estrogen - gweler isod.
Rhinweddau meddygol
Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te iachusol sy'n dda at ddiffyg traul.[1] Fe'i defnyddir hefyd i wella poenau'r misglwyf ac osteoporosis.[2] Dywed eraill ei fod yn wych am godi fflem pan fo'r claf yn dioddef o beswch cas a hefyd i wella cengroen (psoriasis) ac ecsema .[3]
Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis genistin yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i estrogen ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r ddarfyddiad (menopaus) a chryfhau'r galon.[4][5]
Mae sawl ymchwil gwyddonol ar droed sy'n edrych i effaith y feillionen fechan ar gleifion sy'n dioddef o gancr.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Health Wiser'
- ↑ Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.
- ↑ Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.
- ↑ Gwefan Saesneg Herb Wisdom
- ↑ Yanagihara K, Toge T, Numoto M, et al. Antiproliferative effects of isoflavones on human cancer cell lines established from the gastrointestinal tract. Cancer Res 1993;53:5815-21.